Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Wrecsam

Wrecsam

Fel y dref fwyaf yng Ngogledd Cymru, disgrifir Wrecsam yn aml fel prifddinas Gogledd Cymru.

Mae ganddi rai o nodweddion gorau bywyd trefol wedi’i lleoli ynghanol rhywfaint o gefn gwlad mwyaf syfrdanol o hardd y DU. Mae hyn yn amrywio o Ddyffryn Ceiriog i fynyddoedd trawiadol Clwydian ac afon urddasol Dyfrdwy.

Mae’r dref wedi’i thrwytho mewn hanes ond heb golli dim o’i gallu i arloesi, fel y dengys llawer o’r datblygiadau diweddar o gwmpas y dref.

Siopa

Mae Wrecsam yn ganolfan siopa o bwys sydd wedi denu yr holl enwau stryd fawr arferol gan gynnwys Next, HMV, Monsoon, Waterstones, TK Maxx a’r Body Shop.

Mae yna sawl canolfan siopa newydd a llawer o siopau lleol llai sy’n cynnig cyffyrddiad personol.

Mae hanes Wrecsam fel tref farchnad, yn dyddio’n ôl dros 600 o flynyddoedd, yn dal yn amlwg gyda’i farchnadoedd bywiog a llewyrchus. Cynhelir y rhain trwy’r wythnos gan gynnwys marchnad gyfandirol reolaidd a marchnad ffermwyr.

Mae yna ddewis eang o fwytai a chaffis yn Wrecsam ei hun ac yn yr ardal o gwmpas. Mae’r rhain yn cynnwys bwytai Canoldirol, Eidalaidd, Tsieineaidd, traddodiadol Prydeinig, Bangladeshaidd, Thai, Indiaidd ac wrth gwrs bwyd traddodiadol Cymreig. Mae’r bwytai yn amrywio o ran pris ac arddull, felly mae yna rywbeth at ddant pawb.

Enwyd Wrecsam yn Fwrdeistref Sirol Masnach Deg gyntaf Cymru yn 2003. Mae cael y statws yma gan y Sefydliad Masnach Deg yn golygu fod nwyddau Masnach Deg ar gael yn rhwydd mewn siopau yn y dref a bod nifer o gaffis yn cynnig cynnyrch Masnach Deg.  

canol y dref

Mae canol tref Wrecsam yn prysur ennill enw da am rywfaint o’r bywyd nos gorau yn yr ardal.

Mae yna ystod eang o glybiau a chymysgedd gwych o dafarnau traddodiadol a bariau gwin modern. Mae Wrecsam wedi denu’r enwau adnabyddus mewn bywyd nos gan gynnwys Yates, Liquid/Envy, Wetherspoons a Lloyds ochr yn ochr â’r tafarnau a’r clybiau presennol i greu sîn nos fywiog.

Mae Central Station, clwb a lleoliad bandiau byw yn Wrecsam, wedi dod yn glwb nos blaenllaw yn yr ardal gyda thros 1000 o fandiau yn ymddangos yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Mae Wrecsam hefyd yn brolio campau diwydiannol sylweddol.

Yn ddiweddar, dathlodd y draphont ddŵr ym Mroncysyllte, ger y ffin â Sir Ddinbych, ei phen-blwydd yn 200 - y draphont ddŵr haearn gyntaf yn y byd.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr