Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Sir Fflint

Sir Fflint

Sir Fflint yw un o’r siroedd hynaf a mwyaf neilltuol yng Nghymru. Roedd ei hagosrwydd â Chaer yn golygu fod ganddi statws arbennig o fewn Cymru ar ôl buddugoliaeth Edward I yn yr 1280au. Codwyd Castell Flint o gwmpas yr adeg honno i dawelu’r Cymry ond cafodd ei ddinistrio yn Rhyfel Cartref Lloegr.

Daeth cysegrfan Babyddol yn Nhreffynnon yn gysegrfan cenedlaethol i Gymru, a dywedwyd fod dwy bererindod i Dreffynnon yn werth un i Rufain. 

Roedd Penarlâg gerllaw yn gartref i William Ewart Gladstone, a fu’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig bedair gwaith. Mae ei gymynrodd yn dal yn amlwg iawn yn y pentref tlws yma.

Er bod Sir Fflint yn sir Saesneg ei hiaith gan fwyaf erbyn hyn, fan hyn oedd cartref Daniel Owen, awdur a ddisgrifir yn aml fel ateb Cymru i Charles Dickens, â’i nofelau yn dal i fod mor boblogaidd yng Nghymru heddiw ac yr oeddynt pan fu farw 110 mlynedd yn ôl.  

Mae gan Sir Fflint gyfoeth o weithgareddau hamdden a diwylliant, cefn gwlad heb ei ddifetha, hanes cyfoethog a chyfareddol yn rhychwantu dros saith canrif ac ystod eang o dafarnau gwledig cyfeillgar.

Mae’r Wyddgrug hefyd yn gartref i Clwyd Theatr Cymru, â’i chyfarwyddwr Terry Hands yn un o gyfarwyddwyr theatrig gorau’r byd. Mae’r theatr yn denu rhai o’r enwau mwyaf ym myd y theatr a’r celfyddydau yn rheolaidd. 

Mae Bwcle, ychydig filltiroedd o’r Wyddgrug, yn gartref i glwb nos Tivoli, ble chwaraeodd Oasis am y tro cyntaf. Mae ganddo ystod o nosweithiau â thema megis Roc ac Indie, bandiau lleol a nosweithiau myfyrwyr.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr