Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Chwaraeon

nofio

Boed chi eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu’n dymuno trio rhywbeth newydd, mae yna ddigonedd o gyfleusterau chwaraeon ar gael ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau chwaraeon, lleoliadau cadw’n heini a digwyddiadau chwaraeon.

Mae gan Byd Dŵr, yn nghanol tref Wrecsam, chwip o bwll nofio chwe lôn 25m a chanolfan ffitrwydd ynghyd â chyfleusterau eraill fel sawnau ac ystafelloedd stêm.

Mae yna gyfleusterau trac ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Queensway, a chanolfannau ffitrwydd a chadw’n heini eraill gan gynnwys Total Fitness a Fitness First.

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau chwaraeon yn cynnig gostyngiadau i aelodau sy’n fyfyrwyr. Mae yna hefyd nifer o ganolfannau hamdden a phyllau nofio yn yr ardaloedd o gwmpas.

cefn gwlad

Mae bod mor agos at gefn gwlad Gogledd Cymru yn golygu fod yna ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer cerdded, marchogaeth, seiclo, beicio mynydd, trywyddu a mwynhau cefn gwlad.

Mae yna lawer o barciau gwledig a llwybrau gyda golygfeydd godidog yn Ngogledd Ddwyrain Cymru gan gynnwys Parc Gwledig Dyfroedd Alyn, Parc Gwledig Loggerheads a Llwybr Clywedog.

I’r rheiny sydd eisiau ychydig mwy o her, mae yna ddigon o lwybrau heicio yng Ngogledd Cymru.

Mae Llangollen yn lle poblogaidd i ganŵ-wyr ac yn lleoliad ar gyfer sawl cystadleuaeth fawreddog. Yn ogystal mae yna ganolfannau ar gyfer plymio a rafftio dŵr gwyn yn Eryri.

Clwb Pêl-droed

Os oes yn well gennych chi wylio chwaraeon, mae campws Plas Coch drws nesaf i’r Cae Ras, sef maes Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Drws nesaf ar yr ochr arall y mae Canolfan Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Y Llawr Sglefrio ar Rew yng Nglannau Dyfrdwy yn Queensferry yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Chwaraeon Rhew yng Nghymru. Mae’n darparu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a chwaraeon rhew, gan gynnwys Hoci Rhew, Cwrlo a Disgo ar Rew. Yma hefyd y cynhelir Sioeau Rhew o bryd i’w gilydd gan Glwb Sglefrio ar Rew Glannau Dyfrdwy.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr