Gogledd Ddwyrain Cymru yw un o ardaloedd harddaf a mwyaf cyffrous Cymru. Yn cyfuno golygfeydd trawiadol gyda thraddodiad cyfoethog o arloesedd diwylliannol, addysgol a diwydiannol, mae tair sir Gogledd Ddwyrain Cymru, sef Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn enghreifftiol o ddatblygiad Cymru dros yr 800 mlynedd diwethaf.
Y mae’n ardal sydd wedi cynhyrchu ei chyfran deg o bobl enwog yn amrywio o Rhys Ifans i Michael Owen, yn ogystal ag arloeswyr fel Henry Morton Stanley, y dyn a ddaeth o hyd i Dr Livingstone, ac arwyr milwrol fel Owain Glyndŵr.
Mae ei mabolgampwyr, gwyddonwyr a diwydianwyr i gyd wedi gwneud cyfraniadau parhaol i’n cymdeithas.
Roedd Gogledd Ddwyrain Cymru yn un o darddleoedd y chwyldro diwydiannol. Yn sgil ei lo a’i adnoddau mwnol eraill, buan y daeth yr ardal yn ganolfan gynhyrchu o bwys. Allforiwyd dur o Weithfeydd Dur Brymbo i bedwar ban byd mewn sawl gwahanol ffurf.
Yn wir, mae ei gryfderau diwydiannol yn dal yn rhan annatod o’r gymuned, gyda ffatri Airbus UK ym Mrychdyn yn cynhyrchu’r adenydd ar gyfer yr A380 enwog.