Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cymrodoriaethau er Anrhydedd

Mae’r Brifysgol yn rhoi Cymrodoriaethau er Anrhydedd i bobl er mwyn cydnabod eu hymrwymiad sylweddol i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach, a dyma’r anrhydedd uchaf y gall y Brifysgol ei rhoi. Rhoddir y Cymrodoriaethau er Anrhydedd fel arfer yng Nghynulliad Gwobrau Blynyddol y Brifysgol.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol wedi cytuno bod enwebiadau ar gyfer Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn agored i bobl o’r gymuned leol neu’r gymuned ehangach ac i unrhyw aelod blaenorol o staff y Brifysgol neu Fwrdd y Llywodraethwyr, beth bynnag fo eu cymwysterau academaidd, a chyn belled â bod y bobl hynny yn bodloni meini prawf a bennwyd gan y Bwrdd.

Dyma’r meini prawf y gellir enwebu pobl mewn perthynas â hwy:
(i) Cefnogi buddiannau Prifysgol Glyndŵr neu ran benodol o weithgareddau'r Brifysgol;
(ii) Hybu dibenion academaidd y Brifysgol;
(iii) Meithrin cysylltiadau rhwng y Brifysgol a sefydliadau eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol;
(iv) Cyfrannu’n sylweddol at y gymuned leol neu’r gymuned ehangach neu i faes penodol, er enghraifft, cerddoriaeth a’r celfyddydau, gwyddoniaeth, busnes.

Caiff yr alwad am enwebiadau ei gwneud yn flynyddol i’w hystyried gan Bwyllgor Enwebiadau Bwrdd y Llywodraethwyr ac mae ffurflen enwebu ar gyfer enwebu Cymrawd er Anrhydedd yn 2011 ar gael.

Dilynwch y ddolen yma i weld Cymrodorion er Anrhydedd presennol y Brifysgol.

Pe hoffech enwebu rhywun i dderbyn cymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Glyndŵr, gwiriwch y meini prawf cymhwysedd uchod ac wedyn cliciwch yma er mwyn lawrlwytho'r ffurflen enwebu. (doc format)  Anfonwch ffurflenni noddi wedi'u llenwi i Glerc Bwrdd y Llywodraethwyr, PP1, Prifysol Glyndŵr , Plas Coch, Ffordd Y Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW. Caiff enwebiadau eu trin yn gyfrinachol.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr