Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datganiad o Brif Gyfrifoldebau

Unigolion allweddol fel ar y 31 Mawrth 2011

Mae prif gyfrifoldebau Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr wedi’u rhestru yn ei Ddatganiad o’i Brif Gyfrifoldebau. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn gyson ag Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu Prifysgol Glyndŵr.

1. I gymeradwyo cenhadaeth a gweledigaeth strategol y sefydliad, cynlluniau busnes ac academaidd hirdymor a dangosyddion perfformiad allweddol, ac i sicrhau fod y rhain yn cwrdd â buddiannau cyfranddeiliaid. 

2. I ddirprwyo awdurdod i’r Is-Ganghellor, fel Prif Weithredwr, am reolaeth academaidd, corfforaethol, ariannol, ystadau ac adnoddau dynol y sefydliad. Ac i sefydlu ac adolygu’n rheolaidd y polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau o fewn y swyddogaethau rheoli hynny a fydd yn cael eu hymgymryd ac sydd o dan awdurdod y Prifathro (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch).  

3. I sicrhau fod systemau o reolaeth ac atebolrwydd yn cael eu sefydlu a’u monitro, gan gynnwys rheolaethau gweithredol ac asesu risg, penodi archwilwyr, a gweithdrefnau ar gyfer delio gyda chwynion mewnol ac ar gyfer rheoli gwrthdaro buddiannau. Bydd y Bwrdd yn cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant yn ogystal â chymeradwyo hyfforddiant myfyrwyr a ffioedd eraill sy’n daladwy i’r Sefydliad o fewn y fframwaith cyffredinol ar gyfer ffioedd o’r fath a allai o dro i dro fod mewn grym yng Nghymru.

4. I sicrhau fod prosesau ar waith i fonitro a gwerthuso perfformiad ac effeithiolrwydd y sefydliad yn erbyn y cynlluniau a’r dangosyddion perfformiad allweddol cymeradwyedig, a ddylai fod, ble bo hynny’n bosibl a phriodol, wedi’u meincnodi yn erbyn sefydliadau cymaradwy eraill.

5. I sefydlu prosesau i fonitro a gwerthuso perfformiad ac effeithiolrwydd Bwrdd y Llywodraethwyr a’i is-bwyllgorau.

6. I gynnal ei fusnes yn unol ag arfer gorau mewn rheolaeth gorfforaethol addysg uwch a chydag egwyddorion bywyd cyhoeddus wedi’u rhestru gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. 

7. I ddiogelu enw da a gwerthoedd y sefydliad.

8. I benodi’r Is-Ganghellor fel Prif Weithredwr, ac i roi ar waith drefniadau addas ar gyfer monitro ei berffmormiad ef/hi.

9. I benodi Clerc i Fwrdd y Llywodraethwyr a rhoi trefniadau addas ar waith ar gyfer monitro ei berfformiad ef/hi. Yn ogystal, i sicrhau, os oes gan y person a benodir i swydd y Clerc gyfrifoldebau rheolaethol yn y sefydliad, fod yna raniad priodol yn y llinellau o atebolrwydd.

10. I fod yn awdurdod sy’n cyflogi holl staff y sefydliad ac i fod yn gyfrifol am sefydlu strategaeth adnoddau dynol a fframwaith ar gyfer cyflog ac amodau staff eraill sy’n gnweud defnydd o arfer gorau wrth sicrhau fod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ategu’r holl bolisïau a threfnau. Trwy’r Pwyllgor Adnoddau Dynol, i adolygu a chytuno ar gyflog deiliaid swyddi uwch.

11. I fod yn brif awdurdod ariannol a busnes y sefydliad, i sicrhau fod llyfrau cyfrif cywir yn cael eu cadw, i gymeradwyo’r gyllideb flynyddol a’r datganiadau ariannol, ac i fod yn gyffredinol gyfrifol am asedau, eiddo ac ystad y Sefydliad. 

12. I fod yn awdurdod cyfreithiol y sefydliad ac, yn hynny o beth, i sicrhau fod systemau ar waith ar gyfer cwrdd â holl oblygiadau cyfreithiol y sefydliad, gan gynnwys y rheiny sy’n deillio o gytundebau ac ymrwymiadau cyfreithiol eraill a wneir yn enw’r sefydliad.

13. I ddarparu fel y gwêl yn addas ar gyfer lles cyffredinol myfyrwyr, yn unol â chyfrifoldebau’r Brifysgol i sicrhau arfer gorau wrth hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, mewn ymgynghoriaeth â’r Bwrdd Academaidd trwy waith Pwyllgor Materion Myfyrwyr y Bwrdd.

14. I weithredu fel ymddiriedolwr ar gyfer unrhyw eiddo, rhodd, gwaddol, cymynrodd neu anrheg a roddir i gefnogi gwaith a lles y sefydliad.

15. I sicrhau fod Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu’r sefydliad ynghyd â phwyllgorau sefydlog yn cael eu dilyn bob amser a bod cyngor priodol ar gael er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.

Unigolion allweddol fel ar y 17 Hydref 2011

Cadeirydd y Bwrdd Mr Michael Cant BArch MBA MIoD MRICS
Is Gadeirydd Mr Derek Griffin
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Ms Julia Grime
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Mr Bruce Roberts
Cadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol Professor Peter Toyne DL
Cadeirydd y Pwyllgor Enwebiadau Mr Michael Cant BArch MBA MIoD MRICS

 

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr