Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datganiad Llywodraeth Gorfforaethol

Mae gan Brifysgol Glyndŵr, fel cyrff cyhoeddus eraill, ddyletswydd i ymdrin â materion mewn modd cyfrifol ac eglur, ac i gymryd gofynion cyrff cyllido i ystyriaeth, ynghyd â’r safonau mewn bywyd cyhoeddus a ddatganwyd gan Bwyllgor Nolan, y Côd Cyfun a’r argymhellion a ddeilliodd o Ymchwiliad Dearing i Addysg Uwch.

Trwy gydol y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2009, mae’r Brifysgol wedi cydsynio â holl amodau’r Côd a geir yn y Côd Cyfun i’r graddau ag y maent yn ymwneud â Phrifysgolion.

Mae trefniadau llywodraeth gorfforaethol y Brifysgol wedi cael eu sefydlu er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn, a, ble y bo’n briodol, wedi eu hysbysu hefyd gan y canllaw ar arfer da mewn llywodraeth prifysgol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgol a gyflwynwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2009. Mae hyn yn cynnwys Côd Ymarfer Llywodraeth.

O ran y flwyddyn a ddaeth i ben ar yr 31ain o Orffennaf 2010, dywed Bwrdd y Llywodraethwyr tra bod mater Llywodraeth Gorfforaethol wedi cael ei godi, a chanlyniad adolygiad cysylltiedig yn yr arfaeth, maent yn credu e bod wedi gweithredu’n briodol i fynd i’r afael â’r mater, ac yn hynny o beth yn credu nad oedd yna elfen o’r côd nad oedd arfer y Brifysgol yn gyson ag ef.

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr wedi mabwysiadu datganiad o brif gyfrifoldebau, a gyhoeddir ar wefan llywodraeth y Brifysgol. Mae’r datganiad yma yn nodi cyfrifoldebau’r Bwrdd o ran ymdrin â’r canlynol mewn modd cywir: busnes cyhoeddus, cynllunio strategol, monitro effeithiolrwydd a pherfformiad, cyllid, archwilio, rheolaeth ystadau, rheolaeth adnoddau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, lles myfyrwyr, iechyd a diogelwch a phenodi Swyddogion Prifysgol.

Mae gan y Bwrdd y pwyllgorau canlynol: Pwyllgor Materion Myfyrwyr; Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol; Pwyllgor Adnoddau Dynol; Pwyllgor Taliadau; a Phwyllgor Enwebiadau. Mae’r Bwrdd, ar argymhelliad y Pwyllgor Enwebiadau, yn penodi pob aelod o’r Bwrdd sy’n eistedd ar y pwyllgorau hyn. Mae’r Bwrdd hefyd yn penodi aelodau allanol a gyfetholir i Bwyllgorau’r Bwrdd. Cynhelir Cofrestr o Fuddiannau a gwneir datganiadau o unrhyw wrthdaro mewn buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod Pwyllgor a Bwrdd. Mae pob Pwyllgor hefyd yn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd blynyddol.

Corff llywodraethol Prifysgol Glyndŵr sy’n gyfrifol am gynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy’n cefnogi cyflawniad polisïau, nodau ac amcanion, tra’n diogelu cyllidau ac asedau cyhoeddus ac eraill yr ydym yn gyfrifol amdanynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a aseinir i’r corff llywodraethol yn offeryn ac erthyglau’r Memorandwm Ariannol gyda CCAUC.

Mae’r system o reolaeth fewnol wedi’i chynllunio i reoli yn hytrach na dileu’r risg o fethu â chyflawni polisïau, nodau ac amcanion; gan hynny dim ond sicrwydd rhesymol y mae’n gallu ei roi yn hytrach na sicrwydd llwyr o effeithiolrwydd rhag camddatganiad neu golled.

Cedwir gofrestr risg strategol trwy gydol y flwyddyn hyd at 31 Gorffennaf 2010. Cynlluniwyd y gofrestr i ddynodi’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion, i werthuso natur a maint y risgiau hynny ac i fynd i’r afael â hwy yn effeithlon, effeithiol ac economaidd. Mae rheolaeth risg a phrosesau rheoli wedi bod mewn grym trwy gydol y cyfnod ac mae adolygu risg yn rhan annatod o fewn y diwylliant rheolaeth ac wedi’i gymhwyso i’r risgiau ar y gofrestr ac i bob menter newydd a ddynodwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’r prosesau hyn wedi cael eu cymhwyso hyd at y dyddiad y cymeradwywyd y datganiadau ariannol ac yn cyd-fynd â chanllaw CCAUC.

Mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system o reolaeth fewnol. Mae’r prosesau canlynol wedi cael eu sefydlu:

  • Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried cynlluniau a chyfeiriad strategol y Brifysgol.
  • Rydym yn derbyn adroddiadau achlysurol gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ynghylch rheolaeth fewnol ac yr ydym yn galw am adroddiadau rheolaidd gan reolwyr am y camau y maent yn eu cymryd i reoli risgiau yn eu meysydd o gyfrifoldeb, gan gynnwys adroddiadau cynnydd ar brosiectau a materion allweddol.
  • Rydym wedi gofyn i’r Pwyllgor Archwilio ddarparu arolwg o reolaeth risgiau’r Brifysgol.
  • Mae’r Pwyllgor Archwilio yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan y darparwr archwilio mewnol annibynnol, RSM Tenon, sy’n cynnwys barn annibynnol yr archwiliad mewnol ynghylch digonoldeb ac effeithiolrwydd system y Brifysgol o reolaeth fewnol, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwelliannau.
  • Cynhelir rhaglen o weithdai cynorthwyedig ar gyfer Llywodraethwyr, uwch reolwyr a rheolwyr eraill i ddynodi a diweddaru’r materion a’r risgiau allweddol ar gyfer y Brifysgol, gan gynnwys y disgwyliad a’r ymateb priodol i risgiau sy’n dod i’r fei/sy’n gysylltiedig â gofynion deddfwriaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol newidiol.
  • Cynhelir y gofrestr Brifysgol-eang a chytunwyd ar system o adrodd am reolaeth risg gan y Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio. Mae hyn yn golygu ystod o adroddiadau ffurfiol a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.
  • Mae methodoleg blaenoriaethu risg seiliedig ar ddosbarthu risg wedi cael ei sefydlu ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
  • Mae pob risg wedi’i aseinio i gyfarwyddwr perthnasol sy’n adrodd yn rheolaidd i’r Pwyllgor Craidd ynghylch y gweithredoedd a wnaed.
  • Ar ddiwedd y flwyddyn mae Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn adrodd yn ffurfiol i’r Bwrdd llawn ynghylch gweithgareddau’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn yn unol â chanllawiau perthnasol. Mae’r adroddiad yma yn cynnwys asesiad o effeithiolrwydd y System o Reolaeth Fewnol (gan gynnwys rheolaeth risg) yn ystod y flwyddyn.

Mae ein hadolygiad o effeithiolrwydd y system o reolaeth fewnol wedi’i hysbysu gan archwiliad mewnol, sy’n gweithredu yn ôl safonau a ddiffiniwyd yng Nghôd Ymarfer Archwiliad CCAUC.

Mae’r prif risgiau i Brifysgol Glyndŵr yn deillio o’r methiant posibl i recriwtio a chadw myfyrwyr, cadw gallu staff allweddol a chynnal systemau busnes. Roedd recriwtio myfyrwyr ar ei lefel uchaf am rai blynyddoedd yn 2009/10 a chyfarfu Prifysgol Glyndŵr â niferoedd myfyrwyr wedi’u cyllido drachefn. Mae’r risgiau hyn yn peri digon o bryder i gael eu hadolygu’n rheolaidd yng nghyfarfodydd yr Uwch Bwyllgor Gwaith a’r Corff Llywodraethol.

Mae ein hadolygiad o effeithiolrwydd y system o reolaeth fewnol yn cael ei hysbysu hefyd gan waith y cyfarwyddwyr gweithredol o fewn y Brifysgol, sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith o reolaeth fewnol a chan sylwadau a wnaed gan yr archwilwyr allanol megis Swyddfa Archwilio Cymru. Ni chododd unrhyw faterion arwyddocaol yn ystod 2009/10 o ran y Llywodraeth Gorfforaethol, ac eithrio’r mater a nodwyd yn gynharach yn y sylwebaeth yma, y cred y Corff Llywodraethol ei fod wedi gweithredu yn briodol yn ei gylch. 

Cymeradwywyd gan Fwrdd y Llywodraethwyr, Rhagfyr 2010

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr