|
Text begins here:
Yr Athro Eileen Baker (Cadeirydd) OBE BA MSc PGCE DLitt FRSA
Penodwyd ym mis Chwefror 2005, Cadeirydd o Chwefror 2009
Bu Eileen Baker yn athrawes mewn ysgolion uwchradd o 1969 hyd at 1974 pan gychwynnodd ar ei swydd ddarlithio gyntaf.
Ar ôl cael ei recriwtio i Arolygiaeth Ei Mawrhydi yn 1988, fe arbenigodd mewn arolygu Saesneg yn sector y brifysgol a chynhyrchu Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd.
Yn gyn Brifathrawes Coleg AU Bishop Grosseteste, mae hi wedi gwasanaethau ar, ymhlith eraill, Pwyllgor Sefydlog Cyngor y Prifathrawon, y Bwrdd Asiantaeth Hyfforddi Athrawon, y Cyngor Addysgu Cyffredinol, yr Ymchwiliad Mathemateg Cyffredinol, Grŵp Strategaeth Sector CCAUC, Cyngor Cadeirlan Lincoln a phwyllgor y ‘Vision of Lincolnshire’.
Gwobrwywyd proffesoriaeth iddi gan Brifysgol Hull yn 1998, ac ar ôl ymddeol yn 2003 fe dderbyniodd OBE am ei gwasanaethau i addysg uwch a doethuriaeth anrhydeddus a Phroffesoriaeth Wadd o Brifysgol Caerlŷr.
Y Fonesig Janet Jones DL
Penodwyd ym mis Gorffennaf 2006
Penodwyd y Fonesig Janet Jones yn Ddirprwy Raglaw Sir Clwyd ym 1998.
Mae’r Fonesig Janet yn ynad â hir-wasanaeth sydd wedi dal nifer o swyddi ynad amlwg ledled Cymru a Lloegr.
Bu’n Aelod Cyngor o Gymdeithas Ynadon Cymru a Lloegr ac yn Aelod Gweithredol o Gymdeithas Ynadon Clwyd.
Bu’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol yr Arglwydd Ganghellor yng Nghlwyd ac yn Gadeirydd Mainc Ynadon Sir Fflint (2001-2005).
Mae’r Fonesig Janet yn ymroddedig i’r Sector Gwirfoddol.
Ar hyn o bryd mae’n llywydd Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Sir Fflint, Mencap Glannau Dyfrdwy a Chymdeithas Geidiau Glannau Dyfrdwy.
Mae’n ymddiriedolwraig P.A.C.T a Chymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru. Bu’n gyn Aelod o Gyrff Llywodraethu Ysgolion Clwyd.
Jane M James, ARAgS
Penodwyd ym mis Gorffennaf 2006
Penodwyd Jane Jones ym mis Mawrth 2009 fel Rheolwraig Polisi, Llywodraeth a Materion Cyhoeddus Chevron Ltd, wedi’i lleoli yn eu Purfa Olew ym Mhenfro. Mae Purfa Chevron ym Mhenfro yn un o brif gyflogwyr De Cymru. Mae gan y cwmni oddeutu 1,100 o orsafoedd gwasanaeth Texaco yn y DU yn ogystal â busnesau awyrennau, morol ac ireidiau.
Roedd Jane yn Gyfrawyddwraig Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru o 2004 hyd at 2008 yn cyflenwi rhaglenni i dros 4,000 o bobl ifanc ledled Cymru.
Mae ei chysylltiad â’r diwydiant bwyd yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf wedi cynnwys swyddi fel Rheolwraig Gyfarwyddwraig Cwmni Cig Cymru, Rheolwraig Canolfan Canolfan Bwyd Cymru, sef canolfan technoleg bwyd, a chysylltiadau cyhoeddus amaethyddol mewn ystod o sectorau cynhyrchu.
Mae hi hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ac arallgyfeirio busnes ffermio’r teulu yn Sir Benfro.
Bu’n Ddarllenydd Trwyddedig yr Eglwys yng Nghymru am ugain mlynedd, ac yn aelod o Gynghorau Cynulleidfa a Darlledu’r BBC yng Nghymru o 1998 hyd at 2009. Hi oedd y ddynes gyntaf i ennill teitl Ffermwraig Gymreig y Flwyddyn yn 1997.
Mae Jane yn un o Lywodraethwyr Coleg yr Iesu, Aberhonddu ac yn gyfrannog o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol. Mae hi’n briod gyda dwy ferch mewn oed.
Chris Burgoyne ACIB
Penodwyd ym mis Mai 2004
Mae Chris Burgoyne wedi bod yn Gyfarwyddwr Ardal i Fanc yr HSBC yng Ngogledd Cymru ers mis Gorffennaf 2004. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Ardal i Ogledd Ddwyrain Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi ymgymryd â llawer o swyddi rheolaethol ledled Cymru yn ystod ei yrfa fancio 27 mlynedd. Mae’n gyfrifol am weithrediadau manwerthu, masnachol a chorfforaethol HSBC yng Ngogledd Cymru.
Matthew Hart
Penodwyd yn 2008 Llywodraethwr sy’n Fyfyriwr
Yn wreiddiol o Swydd Efrog, symudodd Matt i Wrecsam yn 2004 i astudio ar gyfer BA mewn celfyddydau cymwysedig / gemwaith gwaith metel.
Ar ôl cwblhau ei radd yn 2007 etholwyd Matt yn Is Lywydd Urdd y Myfyrwyr.
Rhoddodd y swydd hon gyflwyniad da iddo o weithio gyda’r Brifysgol a chyda’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol ar ystod eang o ymgyrchoedd myfyrwyr.
Ar ddiwedd ei dymor fel Is Lywydd, etholwyd Matt yn Llywydd Urdd y Myfyrwyr am 2008/09 ac y mae wedi bod yn gweithio i gryfhau mwy ar y berthynas rhwng Urdd y Myfyrwyr a’r Brifysgol, gan gynnwys annog myfyrwyr i fod yn fwy cysylltiedig â chynrychioli’r corff myfyrwyr ym mhob agwedd ar fywyd Prifysgol.
Syr David Henshaw Kt BA M.Soc.Sci FRSA CCMI
Llywodraethwr Chwefror 2008 - Mai 2009
Syr David Henshaw oedd Prif Weithredwr Cyngor Dinas Lerpwl o 1999 hyd at 2006.
Ef hefyd oedd Prif Weithredwr Cwmni Diwylliant Lerpwl, Dirprwy Gadeirydd bwrdd Partneriaeth Merswy a Chadeirydd Grŵp Partneriaeth Lerpwl.
Yn gyn Lywydd Cymdeithas y Prif Weithredwyr Lleol a Chynghorydd i Uned Gyflenwi’r Prif Weinidog, yr oedd hefyd yn gynghorydd i Uned Strategaeth Swyddfa’r Cabinet, yn aelod o Banel Cynhyrchiant Gwasanaethau Cyhoeddus y Trysorlys ac yn aelod o Fwrdd Rhaglen Effeithlonrwydd yr OGC.
Y mae hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol John Moores Lerpwl ac yn Ddoethur Anrhydeddus o Brifysgol Sheffield Hallam, yn gyn Gymrawd o Brifysgol Lerpwl, ac yn gyn Gymrawd Gwadd o Sefydliad Technoleg y Royal Melbourne, Awstralia, yn Gydymaith o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, yn Gymrawd o’r Gymdeithas Gelfyddydau Frenhinol, ac yn aelod o Fwrdd y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Materion Trefol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.
Ar ôl gadael Lerpwl yn 2006, cafodd ei benodi gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i fynd ati i ailgynllunio’r system cefnogi plant yn y DU.
Y mae hefyd yn Gadeirydd GIG Gogledd Orllewin Lloegr ac yn Gadeirydd Gweithredol Rethinking Consulting Ltd.
Yn fwyaf diweddar y mae wedi bod yn gysylltiedig â rhaglen Adolygu Gallu Uned Gyflenwi’r Prif Weinidog o adrannau’r llywodraeth ganolog.
Y mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar nifer o gyrff preifat a chyhoeddus eraill.
Urddwyd Syr David yn farchog yn 2004.
Brian Howes OBE DL BSc
Penodwyd ym mis Ebrill 2007; Cadeirydd Hydref 2007 - Chwefror 2009
Treuliodd Brian Howes 40 mlynedd yn y diwydiannau fferyllyddol a phapur.
Dewisodd symud i Gymru yn 1988 fel Llywydd Adran Fusnes Ewropeaidd Corfforaeth Kimberly-Clark yn Sir y Fflint.
Bu hefyd yn rheoli swyddogaethau adnoddau dynol a logisteg pan-Ewropeaidd Kimberly-Clark.
Gwobrwywyd OBE iddo yn 1993 am ei wasanaethau i’r diwydiant papur.
Penodwyd Brian yn Gadeirydd Cyllid Cymru plc yn 1999.
Y mae wedi cael amryw o benodiadau anweithredol gan gynnwys yr OpTIC Technium yn Llanelwy ac wedi gwasanaethu ar Fwrdd Ymgynghorol Busnes yn y Gymuned – Cymru.
Mae ganddo ddiddordeb mewn addysg menter, ac wedi bod yn gadeirydd Livewire Cymru, Ymddiriedaeth Fusnes Ieuenctid y Tywysog a Menter Ifanc yng Ngogledd Cymru.
Y mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod bwrdd Theatr Clwyd ac y mae’n Drysorydd Oriel Mostyn.
Yr Athro John Last CBE MA DLitt HonFMA FRSA
Medi 2001 - Rhagfyr 2007
Treuliodd yr Athro Last y rhan fwyaf o’i oes waith yn Lerpwl, yn gweithio’n gyntaf i Littlewoods ac yna i United Utilities fel Cyfarwyddwr Materion Allanol. Erbyn hyn mae ganddo gytundeb addysgu rhan-amser yn City University, Llundain, ynghyd â phroffesoriaeth wadd. Mae’n Gadeirydd anweithredol y Dernier Property Group wedi’i leoli ar Lannau Mersi ac yn Gadeirydd anweithredol Bute Communications Ltd, cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Gwobrwywyd CBE i’r Athro Last ym 1989 am ei wasanaethau i’r Celfyddydau.
Yr Athro Katharine Perera, BA MA PhD LLD
Medi 2001 - Rhagfyr 2007
Ar ôl gyrfa gynnar fel athrawes, derbyniodd Katharine Perera swydd fel darlithydd yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Manceinion, a chael ei phenodi yn athro ym 1991 ac yn ddirprwy-is-ganghellor ym 1994. Ar ôl gwasanaethu fel Uwch Ddirprwy-Is-Ganghellor, oedd yn gyfrifol am ddatblygiad academaidd a chynllunio academaidd ac ariannol trwy’r Brifysgol, fe ymddeolodd ym mis Medi 2004. Mae hi’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Ferched Withington, Manceinion, yn gyfarwyddwraig anweithredol Ysbyty Hope, Salford, ac yn aelod o Fwrdd Sefydliad yr Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch.
Peter Purdom CCIPD BA Anrh
Hydref 2005 - Gorffenaf 2008
Mae gan Peter Purdom dros 30 mlynedd o brofiad mewn rheoli a datblygu adnoddau dynol, gan bontio’r sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd. Yn dilyn ei rôl fel Swyddog Personél Sirol gyda Chyngor Swydd Gaer, fe ymgymrodd â rôl ymgynghorol uwch gyda KPMG ac ar ôl hynny gyda Sanders and Sidney plc. Yna ar ôl sefydlu ymgynghoriaeth chwilio a dethol lwyddiannus, fe ymunodd â Penna plc fel Pennaeth Rhanbarthol Client Partners. Yn flaenorol bu Peter yn Is Lywydd Addysg Cenedlaethol y cyn IPM ac, am chwe mlynedd hyd at 2005, bu’n gwasanaethu fel Trysorydd Anrhydeddus Cenedlaethol y CIPD. Mae’n Gydymaith Siartredig o’r CIPD, yn gyn ymddiriedolwr o Gynllun Pensiwn y CIPD, yn ogystal ag Aelod o Bwyllgor Safonau a Dulliau Proffesiynol y CIPD.
Aldham Robarts DL ACBA, FLJMU FRAS
Ionawr 2003 - Ionawr 2009
Dinesydd o Ganada sydd wedi byw yn Ninbych am y 28 mlynedd diwethaf, mae Aldie Robarts wedi gweithio ar 11 o bapurau newydd Thomson Newspapers ledled y byd, yn olaf fel Cyfarwyddwr Marchnata. Fe sefydlodd y Wirral Globe yn 1973, un o’r papurau newydd am ddim cyntaf i gael eu dosbarthu yn y DU a lansio’r cylchgrawn Northwest AutoTrader. Yn gyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Wrecsam Maelor (1992-99) ac yn gyn Gyfarwyddwr Telescope Technologies Limited (1996-2004) ac yn Gadeirydd (2001-04), mae’n Ymddiriedolwr ac yn gyn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ac yn Ymddiriedolwr Prifysgol John Moores Lerpwl.
Ms Hilary Stevens
Penodwyd ym mis Rhagfyr 2007
Roedd Hilary Stevens yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych o 2001 hyd at fis Mai 2007 ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Conffederasiwn GIG Cymru.
Fe gadeiriodd y Bwrdd Partneriaeth Strategol cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Cyn ymuno â’r Ymddiriedolaeth bu’n Gyfarwyddwraig anweithredol yng Nghanolfan Ocoleg Clatterbridge ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Canser Clatterbridge.
Yn flaenorol, sefydlodd Hilary’r National Childbirth Trust yng Nghilgwri a hi oedd y Llywydd cyntaf.
Y mae’n Diwtor ac yn Gynghorydd gyda’r National Childbirth Trust a bu’n Gadeirydd Grŵp Cydlynu Mamolaeth Cilgwri (un Ymddiriedolaeth a dwy Ymddiriedolaeth Gofal Cynradd) am chwe blynedd.
Y mae wedi dal swyddi ar fyrddau yn y sectorau preifat a gwirfoddol ac mae ganddi gefndir o hybu cleifion a’r cyhoedd i fod ynghlwm â’r Gwasanaeth Iechyd a dod â’r Celfyddydau i leoliadau gofal iechyd, templed sydd erbyn hyn yn cael ei ledaenu trwy Gymru.
Basil Towers BA FCIPR
Rhagfyr 2001 - Rhagfyr 2007
Mae Basil Towers wedi treulio dros 23 mlynedd mewn ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus gyda phwyslais arbennig ar fri corfforaethol a rhaglenni rheoli materion. Fe sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun, Christow, yn Llundain yn 1989 a ddaeth yn un o ymgynghoriaethau bri corfforaethol mwyaf blaenllaw’r DU. Cyn Christow, ef oedd rheolwr gyfarwyddwr Shandwick Communications, a sefydlwyd ganddo, ac yn gyfarwyddwr Shandwick UK plc, ymgynghoriaeth CC mwyaf y DU. Erbyn hyn mae’n rhedeg Hesleden Partners, ymgynghoriaeth rheoli bri. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig.
Geoff Andrews BSc MSc
O Chwefror 2005 i Ionawr 2010
Mae Geoff Andrews wedi treulio dros 30 mlynedd yn gweithio ar lefel bwrdd ac uwch reolwr mewn busnesau uwch-dechnegol, tyfiant uchel.
Mae ganddo radd gyntaf mewn Ffiseg a Mathemateg a gradd Feistr o’r Massachusetts Institute of Technology mewn Rheoli Technoleg.
Ym 1993 fe arweiniodd dîm rheoli i brynu busnes Pilkington mewn Systemau Cyfathrebu.
Tyfodd y busnes i fod â throsiant o £60 miliwn erbyn 2001 pan gafodd ei brynu gan gwmni cydwladol Americanaidd mawr.
Erbyn hyn mae Geoff yn Brif Weithredwr Clearview Associates Limited, cwmni ymgynghoriaeth rheoli llwyddiannus sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda nifer o gleientiaid sglodion glas ar brojectau rheolaethol trefniadaethol strategol a datblygu busnes.
Robert (Bob) Hill (Is Gadeirydd)
Penodwyd ym mis Mawrth 2002
Mae Bob Hill wedi byw yn Milton Keynes ers 1972 pan ddaeth yn Gyfarwyddwr Masnachol ac yn nes ymlaen yn Ddirprwy Reolwr Cyffredinol yn y Gorfforaeth Ddatblygu.
Fe ymunodd â Bwrdd Eiddo’r Rheilffyrdd Prydeinig yn 1992 fel Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn 1994 fe ddaeth yn Gyfarwyddwr Eiddo Railtrack plc.
Yn 1998 fe sefydlodd ei ymgynghoriaeth eiddo ei hun, Peerless Hill Partnership.
Ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr o Ymddiriedolaeth Parciau Milton Keynes a Sefydliad Powell - elusen sy’n helpu pobl oedrannus a phobl gydag anableddau, ac wedi bod yn Aelod o Fwrdd Prifysgol De Montfort, Awdurdod Iechyd Swydd Buckingham a Chwmni Theatr ac Oriel Milton Keynes.
Y Barnwr R Philip Hughes
Penodwyd ym mis Chwefror 200
Cafodd y Barnwr Hughes ei alw i’r Bar yn Gray’s Inn yn 1971.
Bu’n gyfreithiwr yn Llundain i ddechrau, yn ogystal ag ar Gylchdaith Caer yng Nghaer ble’r arbenigodd mewn Cyfraith Troseddau, Teulu a Sifil.
Yn ystod ei yrfa nodedig hyd yma y mae wedi dal sawl penodiad uwch gan gynnwys Pennaeth Siamberi yn 40 Kind Street, Caer; Comisiynydd Terfyn Cynorthwyol (Cymru), Cofnodydd Cynorthwyol, a Chofnodydd.
Cafodd ei benodi yn Farnwr Cylchdaith yn 1998 ac am saith mlynedd tan fis Ebrill 2007 bu’n Farnwr Teulu Penodedig dros Warrington.
Ar hyn o bryd, mae’r Barnwr Hughes wedi’i benodi fel Barnwr ar Gylchdaith Cymru gan eistedd mewn Llysoedd Sirol a Llysoedd y Goron yng Ngogledd Cymru, ac yn Farnwr Cyswllt ar gyfer Ynadon Powys yn ogystal â Barnwr Cysylltiadau Cymuned ac Amrywiaeth ar gyfer Gogledd Cymru.
Cafodd ei ethol yn 2007 i Bwyllgor Cenedlaethol Cyngor Cylchdaith Barnwyr Ei Mawrhydi.
Yr Athro Bim Bhowmick DL OBE MD FRCP
Penodwyd ym mis Ebrill 2007
Ymddeolodd yr Athro Bhowmick yn 2009 fel Meddyg Ymgynghorol Gofal Canolradd Ysbyty Sirol Pontypŵl. Mae’n dal i fod yn Feddyg Ymgynghorol Emeritws Ysbyty Glan Clwyd y Rhyl, yn gyn-Ddeon Uwchraddedig Cyswllt Cymru, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth.
Arloesodd lawer o wasanaethau ar gyfer yr Henoed yng Nghymru a dyfarnwyd OBE iddo.
Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Addysg Feddygol Uwchraddedig a chwaraeodd ran ganolog wrth ffurfio addysg a hyfforddiant meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru am bron i ddegawd. Sefydlodd yr Adran Academaidd Meddygaeth Geriatrig gyntaf ym Mhrydain mewn ysbyty cyffredinol ardal bychan.
Fe gychwynnodd ac arweiniodd ddatblygiad Archwiliad Meddygol a Chlinigol yng Nghymru.
Dyfarnodd Prifysgol Caerdydd Gymrodoriaeth a Chadair Bersonol iddo.
Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad sylweddol i Wasanaethau Strôc, mae’r Stroke Interest Group yng Nghymru wedi creu’r ddarlith Bim Bhowmick Flynyddol a Bwrsari Bim Bhowmick.
Bu’n Gynghorydd ac yn Sensor – y cyntaf erioed o Gymru – o Goleg Brenhinol y Meddygon, Llundain.
Y mae’n uwch arholwr MRCP ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Gwobrwywyd Medal y Sylfaenwyr mawr ei bri iddo gan y Gymdeithas Geriatrig Brydeining – yr anrhydedd uchaf i’r meddyg mwyaf nodedig.
Yn ddiweddar fe gyhoeddodd ei hunagofiant, “You Can’t Climb A Ladder With Your Hands In Your Pocket” a ddisgrifiwyd fel “Gafaelgar” mewn un adolygiad, ”Ar gyfer unrhyw ddarllenydd fe fydd yna 10% o chwysu a 90% o ysbrydoliaeth”.
Enillodd yr Athro Bhowmick wobr Elusen Feddygol y DU sefydliad BUPA mewn cydnabyddiaeth o’i waith arloesol mewn Gofal Canolraddol yn 2008. Yn 2009 derbyniodd Wobr Cyfraniad Oes GIG Cymru, a roddwyd am y tro cyntaf erioed.
Y mae’n gymrawd o Brifysgol Glyndŵr.
Mr Malcolm Thomas
Penodwyd Malcom Thomas yn Gyfarwyddwr NFU Cymru yn 1999 ac yn 2008 daeth yn Gyfarwyddwr Aelodaeth a Rhanbarthau NFU UK, yn gweithio o Bencadlys yr NFU yn Stoneleigh, Swydd Warwick.
Arferai fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Polisi NFU Cymru am ddeg mlynedd.
Mae gan Mr Thomas brofiad helaeth o fewn y diwydiant amaeth ar ôl gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (a elwir yn DEFRA erbyn hyn) ac yn Adran Amaeth y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd.
Cafodd Mr Thomas ei eni a’i fagu ar fferm laeth yn Llangynog, Sir Gaerfyrddin ac ers hynny mae wedi dychwelyd gyda’i deulu at ei wreiddiau.
Mae Mr Thomas yn Aelod ac yn gyn Gadeirydd Bwrdd Corfforaethol Sir Gâr ac yn aelod o CBI Cymru.
Mr Carwyn Minard
Penodwyd ym mis Gorffennaf 2009
Myfyriwr Lywodraethwr
Yn wreiddiol o Bontypridd yn Ne Cymru, symudodd Carwyn i Wrecsam i astudio ar gyfer BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar.
Graddiodd yn 2009 a’i ethol yn Llywydd y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009-10.
Mae Carwyn yn chwaraewr rygbi brwd a thrwy gydol ei dair blynedd y mae wedi cynrychioli a chapteinio tîm rygbi Prifysgol Glyndŵr. Roedd hyn yn anrhydedd fawr iddo, gan ei ddysgu am yr angen i fod yn ddiplomatig a meddwl yn glir ar adegau anodd. Cafodd ei sgowtio hefyd gan dîm dan 23 Gogledd Cymru a chynrychiolodd Brifysgol Glyndŵr yn nhreialon Prifysgolion Cymru yn Ne Cymru.
Mae Carwyn yn awyddus i ychwanegu at gyraeddiadau ei ragflaenwyr a datblygu hyd yn oed mwy ar Urdd y Myfyrwyr. Ei brif nod yw greu cyfranogiad mwy gan fyfyrwyr yn y Brifysgol a sicrhau fod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Lynda Powell MBA MIH
Penodwyd ym mis Hydref 2008
Etholwyd yn aelod o staff gweithredol cyfetholedig
Lynda Powell yw’r Pennaeth Gwasanaethau Masnachol ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Gan raddio o Goleg Blackpool a’r Fylde gyda HND mewn Rheolaeth Sefydliadol, Gwesty ac Arlwyo, parhaodd â’u hastudiaethau gan gwbhlau MBA o Brifysgol Cymru yn 2007.
Mae Lynda wedi treulio 20 mlynedd yn y diwydiant lletygarwch ar erbyn hyn y mae’n arbenigo mewn rheoli ystod o wasanaethau masnachol yn strategol o fewn y sector addysg uwch, er mwyn sicrhau fod safon gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei gyflenwi i gwsmeriaid ac i fwyhau’r ffrydiau o incwm posibl o bob ffynhonnell sydd ar gael.
Mae Lynda yn aelod o’r Sefydliad Lletygarwch.
|
|