Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Aelodau annibynnol

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i waith Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol fel aelodau annibynnol.

Ynglŷn â’r Bwrdd

Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymdrechu i fod yn brifysgol myfyriwr-ganolog, wedi’i harwain gan y farchnad o bwys rhyngwladol sy’n agored i bawb. Mae ganddi weledigaeth i fod yn anhepgor fel partner arwyddocaol, perthnasol ac arbenigol mewn datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol yn gyfrifol ar y cyd am benderfynu ar gymeriad addysgol y Brifysgol, am alluogi’r  Brifysgol i gyflawni a datblygu ei chenhadaeth a’i phrif amcanion o ddysgu, addysgu ac ymchwil, gan sicrhau hydaledd y Brifysgol a diogelu ei hasedau.

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr, sydd â mwyafrif o aelodau annibynnol, yn cynnwys yr Is-Ganghellor (Prif Weithredwr) a chynrychiolwyr o blith y staff a’r myfyrwyr.

Mae arian cyhoeddus a phreifat yng ngofal y Bwrdd, ac mae gan ei aelodau ddyletswydd arbennig i ddilyn safonau uchel o lywodraeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ac arddangos uniondeb a gwrthrychedd yn nhrafodion busnes y Bwrdd a dilyn polisi o ddidwylledd ac eglurder ble bynnag y bo modd.

Mae’r ymrwymiad amser yn cyfateb i tua 30 – 50 awr y flwyddyn sy’n cynnwys 4 cyfarfod Bwrdd, 1 dydd ‘i ffwrdd’ a nifer o weithdai datblygu yn ôl y galw. Yn ogystal, disgwylir i’r aelodau wasanaethu ar o leiaf un o bwyllgorau’r Bwrdd a fyddai’n cyfarfod rhwng 2 a 5 gwaith y flwyddyn, er y gellid ystyried yr ymrwymiad amser y gall aelodau a enwebwyd ar gyfer aelodaeth eu rhoi yn bersonol.

Mae cyfnod y swydd yn dair blynedd gyda’r posibilrwydd o  adnewyddu hyn ar gyfer ail dymor.

Mae’r Brifysgol yn ymroi i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ehangu mynediad a chyfranogiad mewn addysg uwch ac yn annog ceisiadau i gyflawni’r ymroddiad yma. Yn arbennig, mae’n croesawu ceisiadau gan bobl gydag anableddau, pobl o leiafrifoedd ethnig a chan ferched, sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ar Fwrdd y Llywodraethwyr.

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad

Mae’r Pwyllgor Enwebu, sy’n gyfrifol am argymell aelodau annibynnol i’r Bwrdd, yn ystyried ystod o sgiliau, gwybodaeth a  phrofiad er mwyn sicrhau fod yna gydbwysedd ar y Bwrdd yn gyffredinol. Disgwylir i wybodaeth ac arbenigedd yr aelodau fod at wasanaeth Bwrdd y Llywodraethwyr ac iddynt roi cyngor ac arweiniad i’r Bwrdd a’r Brifysgol ynghylch ystod eang o faterion.

Mae angen i aelodau annibynnol ddod ag ymddygiadau penodol i Fwrdd y Llywodraethwyr a chwarae rhan briodol wrth sicrhau fod busnes angenrheidiol Bwrdd y Llywodraethwyr yn cael ei weithredu yn effeithlon, yn effeithiol ac mewn modd sy’n briodol i reolaeth gywir busnes cyhoeddus.

Dylai’r aelodau gwestiynu yn ddeallus, trafod yn adeiladol, herio yn drylwyr a gwrando yn sensitif ar safbwyntiau eraill tu mewn a thu allan i gyfarfodydd  Bwrdd y Llywodraethwyr.

Mae’r Pwyllgor Enwebu yn croesawu ceisiadau gan bobl gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn ystod o feysydd, sydd â diddordeb penodol ac ymroddiad i addysg uwch a’r amgylchedd economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol y mae’n gweithredu ynddo. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd yn chwilio’n benodol ar hyn o bryd am bobl gyda sgiliau, gwybodaeth neu brofiad ym meysydd rheoli ystadau/cyfleusterau, y gyfraith, ymchwil a phartneriaeth/ cydweithrediad.

Nid oes cyflog am swydd Llywodraethwyr Annibynnol, fodd bynnag bydd treuliau teithio a threuliau angenrheidiol a rhesymol eraill yn cael eu had-dalu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29ain o Ionawr 2011

Os ydych yn dymuno gwneud cais, cyflwynwch eich CV gyda llythyr eglurhaol yn rhoi eich rhesymau a’r hyn yr hoffech ei gyfrannu at y rôl.

Pe hoffech drafod y rôl neu os oes arnoch eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Val Butterworth, Clerc i Fwrdd y Llywodraethwyr, Prifysgol Glyndŵr, Plas Coch, Ffordd yr Wyddrug, Wrecsam. LL11 2AW.
Rhif ffôn: 01978 293268
e-bost: v.butterworth@glyndwr.ac.uk
Bydd y broses ddethol yn digwydd trwy restr fer a chyfweliadau.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr