|
|
Partneriaid mewn diwydiant
Mae cydweithio mewn partneriaeth wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer creu prifysgol sydd wedi’i harwain gan y farchnad ac sydd yng nghanol ardal bwysig o dwf diwydiannol. Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Gogledd Cymru a’r rhanbarth ac, yn sgil hynny, mae’n ymgysylltu â phob math o sefydliadau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol er mwyn helpu i fanteisio i’w eithaf ar ei chyrhaeddiad a’i heffaith yn y wlad hon a thramor. O’r Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch a ddatblygwyd ar y cyd ag Airbus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cymru i’n gwaith gyda NWN Media i gynhyrchu newyddiadurwyr sy’n barod ar gyfer yr oes ddigidol, rydym yn credu fod cydweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i wead economaidd a chymdeithasol ein hardal a Chymru gyfan.
Yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr rydym yn cydweithio â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, tîm y Crusaders yn rygbi’r gynghrair, yr FAW a’r RFL er mwyn sicrhau dyfodol chwaraeon rhyngwladol yn yr ardal. Mae Canolfan y Diwydiannau Creadigol sydd gennym yn gartref i stiwdio’r BBC yn Wrecsam, a dyma sêl bendith sy’n dangos ansawdd y cyfleusterau a’r arbenigedd sydd yn y ganolfan. Darllenwch am y stadiwm yn cynnal gêmau cwpan rygbi’r byd yn 2013 |
|