Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cynhaliadwyaeth

Cynhaliadwyaeth

Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i gynhaliadwyaeth ac wedi sefydlu Fforwm Cynhaliadwyaeth yn ddiweddar. Gwnaed cynnydd sylweddol mewn nifer o agweddau sy’n lleihau olion traed ecolegol yr Athrofa.  

Fel rhan o’n Cynllunio Strategol yr ydym bob amser yn ceisio gwella ac ystyried yr amgylchedd ym mhopeth yr ydym yn ei wneud.

Edrychwch eto ar y ddewislen ar y dde i ddarganfod mwy am yr hyn y mae Prifysgol Glyndŵr yn ei wneud dros gynhaliadwyaeth.

Sustain part 2 Welsh

Yn ddiweddar, lansiodd Prifysgol Glyndŵr gynllun Seiclo i’r Gwaith i’r staff trwy Cyclescheme Ltd. Mae’r cynllun yn galluogi aelodau o’r staff i gael beic ac offer o’u siop feiciau leol, gyda’r cyfanswm yn cael eu dynnu o’u cyflog dros gyfnod o flwyddyn. Gweler gwybodaeth am y cynllun i staff Prifysgol Glyndŵr (Mae'r wybodaeth yma ar gael yn Saesneg yn unig), neu ewch i wefan Cyclescheme.

Rydym yn annog staff sydd ag awgrymiadau neu syniadau er mwyn ein gwneud yn sefydliad mwy cynaliadwy i gyfrannu at lunio ein cynlluniau.

Statws Prifysgol Masnach Deg

Mae Prifysgol Glyndŵr yn falch o fod wedi cyflawni statws Prifysgol Masnach Deg, a gydnabyddir gan y Sefydliad Masnach Deg. Mae Masnach Deg yn golygu gwell prisiau, amodau gweithio boddhaol, cynaliadwyedd lleol, ac amodau teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd sy’n datblygu.

Mae Prifysgol   Glyndŵr yn cefnogi’r amcanion hyn ble bynnag y bo modd ar ein campysau a’n cyfleusterau.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr