Croeso gan yr Is-Ganghellor
Mae dewis y brifysgol iawn i gwrdd â’ch anghenion yn amser cyffrous i chi. Fe allech fod yn ymweld â llawer o lefydd newydd nad ydych wedi bod ynddynt o’r blaen, gan gyfarfod â phobl newydd a gwneud darganfyddiadau newydd.
Mae yna bob math o bethau y gallech fod yn edrych amdanynt yn y brifysgol y byddwch yn ei dewis: amrywiaeth o gyrsiau, arbenigedd academaidd, lleoliad diogel gyda bywyd cymdeithasol bywiog, campws gyda’r holl gyfleusterau angenrheidiol, darlithwyr cefnogol a chyfeillgar. Fodd bynnag, mae un peth yn bendant, os ydych yn edrych am addysg brifysgol sydd â’r elfennau hyn i gyd yna mae Prifysgol Glyndŵr, sy’n aelod llawn o Brifysgol Cymru, yn ddewis delfrydol.
Mae cynfyfyrwyr a myfyrwyr presennol bob amser yn canmol staffc y Brifysgol am eu cymorth a’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr trwy gydol eu cyrsiau. Maent hefyd yn cofio’r hwyl a gawsant yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Glyndŵr. Bydd y wefan yma yn helpu i roi blas o’r profiad bywyd myfyrwyr y gellir ei gael yma ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Yr amcan pwysicaf i ni ym Mhrifysgol Glyndŵr yw cyflogadwyedd ein graddedigion. Yr ydym yn anelu i ddiweddaru ein cyrsiau a chadw ein diwydiant yn berthnasol trwy weithio gyda chyflogwyr i ddarparu graddedigion gyda’r sgiliau a’r hyder a fydd yn eu helpu yn y gweithle. Bydd ein Canolfan Yrfaoedd a thimau cychwyn busnes wrth law trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Glyndŵr i’ch helpu chi ddod o hyd i leoliadau gwaith perthnasol ac i gynnig yr holl gyngor a chefnogaeth sydd arnoch eu hangen i ddod o hyd i’r swydd iawn.
Gobeithio y bydd y wefan yma yn eich darparu gyda’r wybodaeth sydd arnoch ei angen i ddewis pa brifysgol yr ydych eisiau mynd iddi. Gobeithio hefyd y bydd yn eich annog i ddod i Brifysgol Glyndŵr i weld y cyfleusterau rhagorol sydd gennym ac i gyfarfod y staff academaidd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i’ch annog i ddod i un o’n dyddiau agored. Os nad ydych yn gallu dod i un o’r rhain, ffoniwch ni ar 01978 293439 i drafod eich sefyllfa a hwyrach y gallwn drefnu ymweliad personol neu ddyddiad arall.
Edrychaf ymlaen i’ch cyfarfod a’ch croesawu i Brifysgol Glyndŵr.
Yr Athro Michael Scott
Is-Ganghellor

