|
Text begins here:
 
Mae’r Oriel wedi ei lleoli ar y llawr cyntaf uwchlaw’r brif dderbynfa ar Gampws Plas Coch, ar agor Llun - Gwener, 9am – 4.30pm.
Ers iddi agos ym mis Chwefror 2009 y mae wedi ymdrechu i ddarparu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd grŵp ac unigol sy’n amlygu gwaith artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Arddangosfa bresennol
YM MHOB FFORDD NEU LE / OLLERPLEX UN-PLEX
MELANIE COUNSELL - SEAN EDWARDS - VICKY FALCONER - IRENA KALODERA - MARGARET MALCOLM - FLORENCE PARADEIS - EXTENDED PLAY - KIEREN REED - HUGUES REIP - SPLITT
12 Hydref 2011 – 17 Chwefror 2012
Mae teitl yr arddangosfa yn gydnabyddiaeth chwareus o leoliad Oriel Sycharth. Ystyrir ei lleoliad daearyddol fel mantais gan Melanie Counsell, sy’n dod â chriw amryfal ac amrywiol o artistiaid o Gymru, yr Alban, Lloegr a Ffrainc at ei gilydd, gan roi cyfle unigryw iddynt fentro a rhoi tro ar waith celf heb ei brofi, heb ei ddatrys neu heb ei weld hyd yma.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys ffotograffau, cerfluniau, cerddoriaeth, gwaith sain a pherfformiad gan artistiaid sy’n gweithio mewn ffyrdd amrywiol ac ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, a phob un yn cynnig sampl fechan o’u harfer presennol.
Arddangosfeydd blaenorol
|