|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Graddio 2010 > Datganiadau i’r wasg > Miloedd o fyfyrwyr ar fin graddio
|
||
|
|
Miloedd o fyfyrwyr ar fin graddio29 Hydref 2008
Bydd mwy na 1,000 o fyfyrwyr yn casglu eu graddau heddiw ac yfory yn y seremonïau graddio cyntaf i’w cynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr. Bydd darpar-raddedigion o bob maes pwnc yng nghwmni eu cyfeillion â’u teuluoedd wrth iddynt gasglu eu graddau yn Neuadd William Aston y Brifysgol. Yn ogystal â chasglu eu graddau, rhoddir darn arian coffaol Prifysgol Glyndŵr i’r darpar-raddedigion er mwyn nodi diwrnodau gwobrwyo cyntaf y Brifysgol. Ffurfiwyd y brifysgol ym mis Gorffennaf eleni pan ddyfarnwyd teitl prifysgol llawn i Athrofa Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWI). Cynhelir dwy seremoni bob dydd, am 10.30am a 2.30pm. Ar ôl y seremonïau, bydd y graddedigion, teulu a chyfeillion yn mynd i Ganolfan Edward Llwyd y Brifysgol am ddiod ddathliadol. Talodd Yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr University, deyrnged i bawb fydd yn casglu eu graddau yn y seremonïau. Meddai: “Mae heddiw yn achlysur gwirioneddol arbennig a hoffwn longyfarch i bawb ar eu gorchestion. Rwyf yn falch o fod yn gallu dathlu llwyddiant gyda’n graddedigion, ac i gydnabod y gwaith caled y mae pob unigolyn wedi ei wneud er mwyn ennill eu gradd. “Fel Is-Ganghellor, edrychaf ymlaen at y seremonïau graddio bob blwyddyn ac mae rhai eleni’n eithriadol o arbennig i’r Brifysgol gan mai dyma ein seremonïau cyntaf ers inni dderbyn teitl prifysgol llawn. “Ein graddedigion yw’r dyfodol, y gweithlu a ddaw ar gyfer yr economi leol, ranbarthol, genedlaethol a ryngwladol. Ymha gyfeiriad bynnag sydd gan eu gyrfaoedd ar ôl heddiw, dymunaf y gorau iddynt.” |
|