|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Graddio 2010 > Datganiadau i’r wasg > Llawenydd Graddio i’r Rheolwraig Tracy
|
||
|
|
Llawenydd Graddio i’r Rheolwraig Tracy
29 Hydref 2010 Tracy Hague Mae Tracy Hague wedi bod yn rheolwraig Tai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers y 10 mlynedd diwethaf ac mae’n credu fod astudio’r cyrsiau Tai ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’w gyrfa. Meddai: “Dechreuais ar y cwrs Tai HNC 5 mlynedd yn ôl ac rwyf wedi gweithio fy ffordd trwy’r cymwysterau, hyd at lefel gradd. “Roedd pwnc fy nhraethawd hir yn gysylltiedig â’m prosiect presennol yn y gwaith, felly roedd hynny yn ei wneud yn ddiddorol ac yn werth chweil. Rydw i’n sicr wedi gweld y budd o ddiweddaru fy ngwybodaeth, gan fod hyn wedi fy helpu i symud ymlaen ac ymgymryd â meysydd gwaith newydd. "Mae’r cyrsiau hefyd wedi rhoi cyfle gwych i mi rwydweithio gyda phobl sy’n gwneud swyddi tebyg mewn cynghorau eraill ledled y wlad, ac mae hynny wedi bod yn werthfawr. “Hoffwn ddiolch yn arbennig i’m darlithydd, Jane Richardson, am ei chefnogaeth. Mae ei gwybodaeth gyfredol a’i phroffesiynoldeb heb eu hail.” |
|