|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Graddio 2010 > Datganiadau i’r wasg > Derbynnir Michael Owen Gymrodoriaeth er Anrhydedd
|
||
|
|
Derbynnir Michael Owen Gymrodoriaeth er Anrhydedd30 Hydref 2008
Anrhydeddir sgoriwr goliau penigamp Michael Owen heddiw fel cydnabyddiaeth o’i wasanaethau i chwaraeon. Derbynnir Michael, 28, Gymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Glyndŵr – wrth iddi ddathlu ei seremonïau gwobrwyo cyntaf fel prifysgol ddiweddaraf Cymru. Bydd ef ymhlith 1,000 o bobl i dderbyn graddau a chymrodoriaethau dros ddau ddiwrnod yn y cyfnod pwysig hwn ar gyfer Wrecsam, Cymru a’r Gororau. Dyfernir Cymrodoriaethau er Anrhydedd hefyd i Anne Ellis OBE; Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd [QAA] Norman Sharp OBE; a’r gwyddonydd Rwsiaidd Yr Athro Alexander Chernikov. Meddai Michael: “Rwy i wrth fy modd i gael fy anrhydeddu gan Brifysgol Glyndŵr University fel hyn. Y mae’n wir fraint imi dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd oddi wrth Brifysgol sydd ger fy mhentref genedigol. Teimlaf yn falch o’r ffaith fod gan Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru gynt statws Prifysgol ac mai fi yw un o’r rhai cyntaf i’w hanrhydeddu gan y sefydliad newydd hwn. “Hoffwn hefyd longyfarch pob un o’r myfyrwyr sydd wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr eleni.” Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Rwyf yn falch ein bod ni’n anrhydeddu Michael am ei wasanaethau i chwaraeon. Y mae ei orchestion wedi bod yn ysbrydoliaeth i filoedd o bobl ifanc. Rwyf yn sicr y bydd ei goliau yn erbyn yr Ariannin ym 1998 a’i drithro yn erbyn yr Almaen yn y fuddugoliaeth 5-1 yn 2001 yn aros yn hir yn y cof. Y mae gan Michael ddawn wirioneddol eithriadol.” Ganed Michael, sy’n hanu o Benarlâg, yng Nghaer ac yn fachgen ifanc, chwaraeodd dros Fold Alexandra, Ysgol Gynradd Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Gyfun Penarlâg, cyn ymuno ag Ysgol Ragoriaeth y Gymdeithas Bêl-droed yn 14 oed. Ymunodd â Chynllun Hyfforddi Ieuenctid Clwb Pêl-droed Lerpwl nes ymlaen, gan lofnodi ei chytundeb proffesiynol cyntaf â Lerpwl ddyddiau yn unig cyn ei ben-blwydd yn 17 oed. Chwaraeodd Michael dros Loegr gyntaf yn Wembley yn gynnar ym 1998 ac erbyn haf yr un flwyddyn yr oedd ef wedi dod yn seren fyd-enwog ar ôl sgorio “gôl ryfeddol” yn erbyn yr Ariannin yng Nghwpan y Byd. Sicrhaodd ei drithro yn erbyn yr Almaen ym Munich yn 2001 le i Loegr yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2002. Yn dilyn tymor buddugol triphlyg Lerpwl yn 2000/2001 yng Nghwpan y Gynghrair, Cwpan y Gymdeithas Bêl-droed [FA] a Chwpan UEFA, parhaodd Michael i ychwanegu at ei enwogrwydd ac fe ddaeth yn un o saethwyr mwyaf cyffrous Ewrop. Fe’i henwyd yn Bêl-droediwr Ewropeaidd y Flwyddyn ym mis Rhagfyr 2001. Yn 2004 ymunodd Michael â Real Madrid a blwyddyn yn ddiweddarach, symudodd i Newcastle United am ffi drosglwyddo o £16m a dorrwyd pob record flaenorol. Yn bedwerydd sgoriwr uchaf Lloegr, y mae Michael bellach yn capteinio Newcastle United. Y mae Michael yn briod â’i gariad er plentyndod, Louise Bonsall ac y mae gan y pâr dri o blant. |
|