Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch Graddio

Pryd mae’r seremoni yn dechrau?

Mae’r seremonïau yn dechrau am 10:30 a 14:30. Bydd amser a dyddiad eich seremoni chi wedi’i argraffu ar eich llythyr gwahoddiad.
Bydd drysau Neuadd William Aston yn agor 45 munud cyn dechrau’r Seremoni.
Mae’n rhaid i bawb sy’n graddio fod yn eu seddi 30 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Ble fydda i’n eistedd?

Ar ôl cyrraedd Prifysgol Glyndŵr, ewch i’r Ddesg Gofrestru. Byddwch yn cael cerdyn enw sydd â rhif eich sedd arno. Cewch eich cyfeirio at eich sedd gan dywysydd yn Neuadd William Aston.

Caiff y graddedigion eu gosod yn nhrefn yr wyddor yn ôl grwpiau eu cwrs/rhaglen ar ochr dde y neuadd, o Res A yn ôl.

Bydd tocynnau gwesteion yn nodi rhes a rhif y sedd a ddynodwyd iddynt. Caiff gwesteion eu tywys i’w seddi gan dywysydd.

Cofiwch wneud yn siŵr bod eich ffôn symudol wedi’i diffodd pan fyddwch yn Neuadd William Aston.

Sawl tocyn fydda i’n ei gael?

Nid oes angen tocyn ar fyfyrwyr sy’n graddio.
Mae pawb sy’n graddio yn cael 2 docyn i westeion am ddim, cyn belled â’n bod yn derbyn eu ffurflen gofrestru wedi’i llenwi cyn 27 Awst 2010.

Ydw i’n gallu cael rhagor o docynnau?

Mae uchafswm dechreuol o ddau docyn gwadd i bob person sy’n graddio ac mae’r rhain yn rhad ac am ddim cyn belled â’ch bod yn llenwi ac yn dychwelyd eich ffurflen gofrestru erbyn 27 Awst 2010.
Ar ôl y dyddiad hwn, os bydd lle ar ôl, bydd unrhyw docynnau i westeion sydd ar ôl ar gyfer eich seremoni yn cael eu gosod ar-lein i’w prynu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 20 Medi 2010. Bydd ffi o £10 am bob tocyn sy’n cael eu prynu ar lein.

Os byddwn yn derbyn eich ffurflen ar ôl y dyddiad cau o 27 Awst 2010 ni fydd gennych hawl i gael y 2 docyn am ddim i westeion ond byddwch yn gallu prynu tocynnau gwesteion am £10 y tocyn ar-lein os oes rhai ar ôl. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i’ch ffurflen ein cyrraedd yn y post erbyn y dyddiad hwn.

Bydd yr holl d ocynnau sydd ar ôl i westeion ar gael i’w prynu ar-lein a hynny ar sail y cyntaf i'r felin. Dylech hefyd fod yn ymwybodol na allwn warantu y bydd y tocynnau gwesteion ychwanegol yr ydych yn eu prynu bryd hynny wedi’u lleoli yn ymyl eich dwy sedd wreiddiol i’ch gwesteion.

Pryd bydda i’n derbyn fy nhocynnau?

Caiff y tocynnau a gwybodaeth bellach eu hanfon tua 5 diwrnod cyn y Seremoni at yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru eu bod am fynychu.

I ble gaiff y tocynnau eu hanfon?

Caiff yr holl docynnau ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn y Deyrnas Unedig eu gyrru i’ch cyfeiriad cartref parhaol. Cofiwch roi gwybod i’r Swyddfa Rhaglenni Myfyrwyr (spo@glyndwr.ac.uk) beth yw eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn cyswllt ar hyn o bryd. Os dewiswch, gallwn yrru eich tocynnau i gyfeiriad arall. Cysylltwch â ni ar graduation@glyndwr.ac.uk i roi gwybod inni os hoffech inni yrru eich tocynnau i rywle arall.
NI chaiff tocynnau ar gyfer myfyrwyr yr UE a Rhyngwladol eu rhoi yn y post. Yn hytrach byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni (o’r Ddesg Casglu Tocynnau yng Nghanolfan Catrin Finch).  Dewis arall fyddai casglu’r pecyn tocynnau o’r Swyddfa Academaidd, Ystafell L313 yng Nghanolfan Edward Llwyd tua 10 diwrnod cyn yr achlysur.

Pryd fydda i’n gwybod os byddaf wedi llwyddo i gael tocynnau ychwanegol?

Os byddwch yn prynu tocynnau ychwanegol ar-lein, byddwch yn derbyn ebost i gadarnhau eich bod wedi’u prynu. Caiff y tocynnau ychwanegol hyn eu gyrru atoch gyda gweddill eich pecyn tocynnau tua 10 diwrnod cyn y Seremoni.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n colli fy nhocynnau?

Os collwch eich tocynnau cyn y Seremoni, ffoniwch 01978 293232 i gael rhai newydd yn eu lle – caiff eich rhai gwreiddiol eu canslo. Os anghofiwch eich tocynnau ar y diwrnod, siaradwch ag un o’r Swyddogion yn y Cyntedd gan esbonio’r sefyllfa.
Gofynnir i’ch gwesteion ddangos eu tocynnau wrth fynd mewn i Neuadd William Aston gan y bydd rhif y sedd wedi’u nodi ar y rhain.

Dydw i ddim yn siŵr a oes arnaf i arian i’r Brifysgol?  

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad oes arnoch chi unrhyw beth i’r Brifysgol.

I wirio eich statws, cysylltwch â’r adran Derbyn Cyfrifon yn yr Adran Gyllid drwy ffonio 01978 293037 neu e-bostio accountsreceivable@glyndwr.ac.uk.  Mae’n rhaid talu pob dyled erbyn 24 Medi 2010.

Beth yw’r rheolau o ran gwisg?

Mae’n rhaid i chi wisgo gwisg academaidd.
Mae’r Seremoni yn achlysur ffurfiol. Argymhellir bod myfyrwragedd yn gwisgo blows wen a sgert/trowsus tywyll a myfyrwyr gwrywaidd yn gwisgo crys gwyn a siwt dywyll. Dylai eich crys neu flows fod yn un sydd â botymau er mwyn gallu clymu’r cwfl (hood ) yn ddiogel arno.
Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddod â phinnau diogelwch ar gyfer y gŵn a gafaelion (grips ) Kirby er mwyn gosod y cap academaidd yn ddiogel.

Sut ydw i’n archebu fy ngŵn graddio?

Caiff y gŵn graddio ei darparu gan Ede & Ravenscroft.
Gellir archebu gŵn drwy wefan Ede & Ravenscroft
http://www.gownhire.co.uk/ neu drwy ffonio Canolfan Alwadau Ede & Ravenscroft 01223 861854. (Ni fyddwch yn derbyn gostyngiad llogi ar-lein os byddwch yn archebu drwy’r Ganolfan Alwadau.) Caiff y capiau academaidd eu darparu gan Ede & Ravenscroft gyda’r gŵn a’r cwfl (hood).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’r gŵn cywir – mae cwfl gwahanol ar gyfer pob lefel.

I ble ddylwn i fynd i nôl fy ngŵn graddio?

Dylech gasglu eich gŵn graddio o Ganolfan Catrin Finch ar ôl i chi gofrestru.
Seremoni 10:30 - cofrestru yn agor o 08:30 hyd at 09.45
Seremoni 14:30 - cofrestru yn agor o 12:30 hyd at 13.45

Ble caiff y llun swyddogol ei dynnu?

Bydd y tynnu llun yn digwydd yng Nghanolfan Catrin Finch. Gellir gwneud archeb gydag Ede & Ravenscroft (gweler y ffurflen archebu yn eich Pecyn Gwahodd) neu drwy archebu ar-lein yn www.edeandravenscroft.co.uk.
Cofiwch adael digon o amser i gasglu eich gŵn a chael tynnu eich llun, gan gadw mewn cof faint o’r gloch mae eich seremoni. Bydd y ffotograffiaeth ar gael o 08:30 tan tua rhyw awr ar ôl seremoni olaf y dydd.
Mae’n syniad da cyrraedd yn gynnar gan y caiff y lluniau eu gwneud ar sail y cyntaf i'r felin.
Cewch archebu ar y dydd ond byddai archebu o flaen llaw yn golygu y gallwch osgoi ciwio wrth y ddesg gwerthu.

Eich cyflwyno i’r Is-ganghellor / Prif Weithredwr (darllenwch hwn yn ofalus)

Byddwch yn cael eich tywys o’ch sedd a’ch cyfarwyddo i gerdded ar draws y llwyfan. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno mewn grwpiau o bedwar a byddant yn ysgwyd llaw â’r Is-ganghellor/Prif Weithredwr. Os ydych wedi ennill Gwobr, caiff y wobr hefyd ei chyflwyno i chi.

Ar ôl cael eu cyflwyno, bydd y myfyrwyr yn cerdded i lawr canol y llwyfan ac yn cael eu harwain i sedd yn y neuadd. Mae’n bosibl na fyddwch yn dychwelyd i’ch sedd wreiddiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael eich eiddo personol, sef pethau fel bagiau llaw, gyda ffrindiau neu berthnasau.
Bydd f
fotograff o bob myfyriwr yn ysgwyd llaw â’r Is-ganghellor/Prif Weithredwr yn cael ei dynnu gan Ede & Ravenscroft Photography.
Peidiwch â chnoi gwm pan fyddwch ar y llwyfan.

Pa mor hir fydd y seremoni yn para?

Bydd y seremoni yn para rhyw 60 i 90 munud.
Peidiwch â gadael y Neuadd hyd nes bod y Seremoni wedi gorffen.
Ar ôl y Seremoni, bydd y Graddedigion yn ymdeithio’n ffurfiol o Neuadd William Aston i Ganolfan Edward Llwyd. Awgrymir yn gryf eich bod yn trefnu i gwrdd gwesteion yng Nghanolfan Edward Llwyd er mwyn osgoi prysurdeb y tu allan i Neuadd William Aston.

Ydi’r seremoni yn addas ar gyfer babanod neu blant bach?

Rydym yn credu nad yw’r seremoni yn addas ar gyfer plant dan oedran ysgol a gofynnwn yn garedig i chi wneud trefniadau eraill. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn gofyn i westeion sydd â phlant ifanc eistedd ar ben y rhes neu yn agos at allanfa er mwyn iddynt fynd â’r plentyn allan os byddant yn mynd yn aflonydd.

Mae angen i bob plentyn dros flwydd oed gael tocyn gwestai ar gyfer sedd – mae hyn yn unol â’r Polisi Iechyd a Diogelwch. Nodwch ar eich Ffurflen Gofrestru faint o blant fydd yn bresennol yn y seremoni, os oes raid iddynt fod yn bresennol.
Ni chaniateir pramiau yn yr eiliau – mae hyn hefyd yn groes i reoliadau tân.
Bydd cyfleuster crèche ar gael ar y diwrnod. Cysylltwch â Meithrinfa Little Scholars ar 01978 262551 neu ebostiwch: littlescholars@activechildcare.co.uk

Ydw i’n gallu prynu fideo o’r seremoni?

Bydd DVD ar gael i’w brynu. Byddwch yn gallu archebu un o flaen llaw gan MC Video neu ei gael wedi’i wneud ar y diwrnod.

Ydw i’n gallu defnyddio fy nghamera fideo neu dynnu llun fy hun?

Does dim cyfyngiadau ar ffotograffiaeth neu gamerâu fideo at ddefnydd personol – ond cofiwch beidio rhwystro pobl eraill rhag gweld neu fod ar y ffordd.

Beth os oes gen i neu fy ngwestai anghenion arbennig?

Dylech nodi hyn ar eich ffurflen gofrestru.
Gellir darparu ar gyfer gwesteion sydd â phroblemau symud difrifol – e.e. defnyddwyr cadair olwyn.
Os yw unrhyw un am gael sedd yn yr eil, yna dylent nodi hyn ar y ffurflen gofrestru.
Os bydd unrhyw amgylchiadau eraill y teimlwch y dylem wybod amdano, nodwch hyn mewn llythyr ynghlwm wrth eich ffurflen gofrestru neu ffoniwch 01978 293232.

Beth am fwyd a diod?

Caiff gwydr o win neu ddiod meddal ei gynnig yng Nghanolfan Edward Llwyd ar ôl y Seremoni.
Bydd bwyd a diod ar werth yn Scholar’s Rest, Bar Caffi Fellows a Chapters.
Gallwch hefyd archebu cinio neu de graddio ym Mwyty 1887 drwy gysylltu â Sarah Fisher ar 01978 293494 neu ebostio catering@glyndwr.ac.uk

A fydda i’n derbyn fy nhystysgrif gradd ar y diwrnod?

Ni fydd eich memrynau ar gael ar ddiwrnod y seremoni, ond byddant yn cael eu postio atoch i gyfeiriad eich cartref yn nes ymlaen. Dylech wneud yn siŵr fod gan y Brifysgol eich cyfeiriad cartref diweddaraf drwy edrych ar eich manylion ar Wefan Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.
Os hoffech inni bostio eich tystysgrif i gyfeiriad arall, nodwch hyn ar eich Ffurflen Gofrestru ar gyfer y graddio.

Ble galla i barcio?

Ni fydd yna lefydd parcio ar gael ar y safle yn ystod y Seremonïau Graddio. Mae yna lefydd parcio ar gael ar y safleoedd isod, yn ddi-dâl.

Maes Parcio Coleg Iâl 
Coleg Iâl, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam LL12 7AB
Llefydd parcio: - Oddeutu 150
Pellter cerdded i Brifysgol Glyndŵr:- Oddeutu 15-20 munud ar droed
Maes Parcio Ysgol Plas Coch 
Ysgol Plas Coch, Ffordd Stansty, Wrecsam LL11 2BU
Llefydd parcio: - Oddeutu 50 o lefydd 
Distance to ar droedto Prifysgol Glyndŵr:- Oddeutu 5 munud

Bws gwennol

Noder y bydd yna fws gwennol yn rhedeg rhwng Coleg Iâl a Phrifysgol Glyndŵr i nôl a gollwng myfyrwyr a gwesteion. Noder na fydd yna ddigon o le i’r myfyrwyr a’r gwesteion i gyd ddefnyddio’r gwasanaeth yma, gan ei fod yn cael ei ddarparu yn bennaf i’r rheiny sydd yn cael trafferth cerdded ayb. Noder na ellir sicrhau y bydd yna lefydd ar y bws gwennol yma. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg o tua 8am-5pm Ddydd Mercher a Dydd Iau 27-28ain o Hydref 2010 ac 8am-3.30pm Ddydd Gwener 29ain o Hydref 2010.

Man gollwng a llefydd parcio anabl

Noder y gellir gollwng myfyrwyr/gwesteion wrth y prif adeilad cyn parcio os oes angen. A wnewch chi ddefnyddio Mynedfa A os ydych yn dymuno gwneud hyn, os gwelwch yn dda.

Ar gyfer y myfyrwyr a’r gwesteion hynny sydd angen llefydd parcio anabl, bydd yna nifer gyfyngedig o lefydd ar gael ar safle Plas Coch (Mynedfa A – Prif fynedfa) ond ni ellir sicrhau y byddant ar gael. Bydd angen tocyn parcio anabl i barcio yn y mannau hyn a dylid bod wedi gofyn amdanynt ar y ffurflen gofrestru Graddio.

Meysydd parcio cyhoeddus

Isod ceir rhestr o feysydd parcio cyhoeddus y gellir eu defnyddio yn ogystal.

Sant Marc (NCP) 
300 llefydd / 6 anabl
2-3 awr - £4
3-24 awr - £5
Codir tâl ar ddeiliaid bathodynnau anabl
Pellter cerdded i Brifysgol Glyndŵr: - Oddeutu 15 munud ar droed
Y Werddon (NCP) - LL13 7LW 
478 llefydd / 30 anabl
2-3 awr - £1.80
3-4 awr - £5.00
Trwy’r dydd - £10.00
Am ddim wrth arddangos bathodyn anabl
Pellter cerdded i Brifysgol Glyndŵr: - Oddeutu 15 munud ar droed
Gorsaf Ganolog Wrecsam - LL11 1AA 
67 llefydd / 2 anabl
1 day - £2.50
Codir tâl ar ddeiliaid bathodynnau anabl
Pellter cerdded i Brifysgol Glyndŵr: - Oddeutu 5 munud ar droed

Cludiant Cyhoeddus – Bysiau

Mae yna nifer o fysiau yn rhedeg rhwng Gorsaf Fysiau Wrecsam (gyferbyn â Choleg Iâl) a Phrifysgol Glyndŵr/ Parc Manwerthu Plas Coch (gyferbyn â’r Brifysgol). Y bysiau sy’n rhedeg o’r Orsaf Fysiau yw Rhifau 13, 15, 21, 23, 40 a’r Bws Bach (i Barc Manwerthu Plas Coch).

Am amserlenni y llwybrau hyn, ewch i yma.

Cwmnïau tacsi

Wrexham and Prestige Taxis 01978 291 999

Regal and Town Cars 01978 313 131

Town Cabs 01978 313030

Noder fod y prisiau a’r wybodaeth i gyd yn gywir ar adeg argraffu.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr