Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Dirwasgiad, Cadernid a Dyfeisgarwch

Bygythiadau a Chyfleoedd ar gyfer Lles Meddwl

Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan

Mercher 17 Mawrth 2010

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, Cymru, y DU

Mae’n bleser gan Rwydwaith Hybu Iechyd Cymru Gyfan gyhoeddi ei drydedd cynhadledd flynyddol.

Bydd y gynhadledd hon yn archwilio’r effaith y gall y dirwasgiad ei gael ar iechyd meddwl a’r cyfle i hyrwyddo lles meddwl a hyrwyddo cadernid unigol a chymunedol.

Mae’r gynhadledd yn briodol ar gyfer aelodau presennol o’r Rhwydwaith ac unrhyw un sy’n gyfrifol am, neu â diddordeb mewn hybu iechyd meddwl y cyhoedd.

Nod y gynhadledd yw rhoi mynediad i dystiolaeth yn ymwneud â’r thema a hyrwyddo arfer da. Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod o gyflwyniadau wedi eu dilyn gan weithdai ar draws meysydd:

  • rhianta a’r blynyddoedd cynnar
  • plant a phobl ifanc
  • cymunedau
  • cyflogaeth
  • pobl hŷn
  • chynhwysiant a galluogrwydd ariannol

Nod digwyddiadau’r rhwydwaith yw i:

  • ddarparu fforwm ar gyfer dysgu;
  • rhoi cyfle i aelodau o’r rhwydwaith rannu syniadau;
  • darparu fforwm i aelodau o’r rhwydwaith sefydlu cysylltiadau a phartneriaethau gydag eraill o sefydliadau a sectorau gwahanol;
  • sefydlu cysylltiadau rhwng tystiolaeth ac ymarfer;
  • annog cyfranogwyr nad ydynt yn aelodau eto i ymuno â’r rhwydwaith;
  • defnyddio profiad a gwybodaeth aelodau’r rhwydwaith ac eraill i helpu i lywio polisïau ac ymarfer yn y dyfodol.

I gofrestru, llenwch y ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i mentalhealth@wch.wales.nhs.uk

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr
Bookmark and Share