Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datblygiadau Newydd mewn Ymchwil a Chynnyrch Gymiau Acasia

Llun 20 – Mercher 22 Medi 2010

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, Cymru, y DU

Galw am grynodebau: dylai arbenigwyr sy’n dymuno cyfrannu at unrhyw un o’r pynciau a nodwyd gyflwyno crynodeb 250-gair i’w ystyried gan y Pwyllgor Trefnu.

Mae yna gyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer cwmnïau defnyddwyr a chynhyrchwyr gwm arabig: Manylion gan yr Athro Phillips (phillipsglyn@aol.com).

Ewch ati i ddysgu popeth sydd yna i wybod am y GWM ARABIG.

Strwythur

Bydd y diprwyon yn cyrraedd ar 20 Medi am Sesiwn Agoriadol a fydd yn cynnwys Darlith Hyglod, gyda derbyniad coctel a chinio i ddilyn. 

Dyddiau 2 a 3: rhaglen lawn o gyflwyniadau yn cwmpasu’r pynciau a restrir isod.

Noson gymdeithasol ar ddiwedd yr 2il ddiwrnod 2: Cinio a Chyngerdd gyda Chôr Meibion Cymreig blaenllaw.

Bydd yna gyfle am gyflwyniadau am ddim, a dylid cyflwyno crynodebau.

1. Y Cyflenwad

Yr agwedd newydd at Ansawdd, Ffynonellu a Hyfforddiant yn y system cynhyrchu cychwynnol. Materion yn ymwneud â chyflenwi a chynaliadwyedd, gyda chyfraniadau o’r:

  • Swdan
  • Nigeria
  • Cenia
  • Tsiad

2. Y Deunydd

  • Statws rheolaethol newydd fel Ychwanegyn Bwyd. Bwyd a Chynhwysyn Bwyd, Deietegol.
  • Ffibr o Werth Caloriffig Isel (1.7Kcal/g).
  • Strwythur – wedi’i ddatrys yn derfynol erbyn hyn? Strwythur disg yr arabinogalactan; strwythur “plethwaith” cronellog y protein arabinogalactan.
  • Genynnau synthetig ar gyfer cynhyrchu proteinau arabinogalactan newydd sbon.
  • Strwythur – swyddogaeth – ar gyfer defnyddiau penodol: Seyal neu Senegal? Sesiwn am nodweddion ffisegol a chemegol gwm arabig sy’n rheoli’r effeithiolrwydd mewn defnyddiau penodol.   
  • Emylsiad: Caenu defnyn o olew neu saim gyda gronyn o brotein.
  • Crynhoad o liw, blas, olewon hanfodol; cyfansoddiadau aromatig fitaminau, rhin planhigion ac ati; ffurfio haen galed er mwyn atal ocsidyddion rhag treiddio, gyda’r potensial o rwymo i’r matrics.
  • Glyniad: Pobi ar gyfer topins a sgleiniau ac er mwyn atal siwgr rhag crystaleiddio a phapur i lyniad papur (stampiau a phapurau sigaréts).
  • Rheolaeth Hydradu a Gwead: fisco-elastigedd a chadwyni’n cordeddu.
  • Modwlws elastig: Gwm cnoi a melysion megis jiw-jiws, pastiliau a losin gwm: amsugniad dŵr uchel. 
  • Ffurfio Strwythur a Sefydlu Ewyn: mewn malws melys ac effeithiau topins wedi’u chwipio “llenni lês” mewn cwrw.
  • Nodweddion rheolegol arwynebol: Dosbarthu saim ac amnewid saim: dresins salad ac ati.
  • Defnyddiau a thechnoleg gysylltiedig mewn cynhyrchu gwin.
  • Defnyddiau technegol – mewn delweddu ac ati.

Fforwm Cynnyrch Newydd: cyfle i gyflwyno cynnyrch perchenogol masnachol newydd gyda chyflwyniadau gan gwmnïau gwadd.

3. Y Farchnad

  • Safle gwm arabig mewn perthynas â’r farchnad hydrocoloidau bwyd.
  • Ymddangosiad ffibr deietegol mewn perthynas ag anghenion maethol cyfredol.
  • Emylsiadau cymhleth, fitaminau arbenigol a diodydd archfarchnadoedd.
  • Amnewid protein llaeth a gelatin.
  • Porthiant anifeiliaid.

4. Heriau diwydiannol

  • o’r goeden i’r defnyddwyr cynnyrch: gwm gwyrdd
  • problemau difwyno rhywogaeth
  • prosesu, problemau hidlo a niwed wrth storio
  • agreg/niwed trwy chwistrell-sychu
  • osgoi lliwiad – neu gael gwared ar liwiad?

Ffioedd y gynhadledd

I ddirprwyon cwmni/diwydiannol, bydd ffi’r gynhadledd yn £415 o bunnoedd sterling ac yn £285 o bunnoedd sterling i gyfranogwyr academaidd. £75 o bunnoedd sterling i fyfyrwyr uwchraddedig.

Bydd y Trafodion yn cael eu cyhoeddi a bydd pob cyfrannog sy’n talu ffi yn derbyn copi o’r llyfr. Mae ffi’r gynhadledd yn cynnwys y derbyniadau coctel, y ddau ginio gyda’r nos, cinio canol dydd ar y ddau ddiwrnod a choffi yn ystod y cyfarfodydd.

I’r dirprwyon sy’n talu, bydd ffi’r gynhadledd hefyd yn cynnwys Aelodaeth o’r Sefydliad Hydrocoloidau Rhyngwladol am y flwyddyn gyntaf.

Llety i ddirprwyon

Gofynnir i’r cyfranogion archebu eu gwestai eu hunain, ond bydd prisiau blaenoriaethol is ar gael ar gyfer y gwestai hwylus a gymeradwyir, ac mae’n bosibl y bydd rhywfaint o letyau myfyrwyr ar gael hefyd. Bydd yr Ysgrifennydd ar gael i roi manylion.

Y maes awyr rhyngwladol mwyaf cyfleus yw Manceinion, a threfnir cludiant i leoliad y gynhadledd yn Wrecsam (tua 45 munud).

Gwybodaeth bellach

Am fanylion pellach cysylltwch â’r:

Athro Glyn O. Phillips (phillipsglyn@aol.com)

Yr Athro Peter Williams (p.a.williams@glyndwr.ac.uk)

Dr Saphwan Al-Assaf (s.alassaf@glyndwr.ac.uk)

Ysgrifennydd y Gynhadledd: Haydn Hughes (h.hughes@glyndwr.ac.uk)


Am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod neu am gyfleusterau cynhadledd neu logi ystafelloedd cysylltwch â:

Haydn Hughes
Rhif ffôn: (01978) 293565
Ebost: h.hughes@glyndwr.ac.uk 

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr