|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Cor Cymunedol Prifysgol Glyndwr
|
||
|
|
Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr
Sefydlwyd Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr yn 2009 o ganlyniad i sgwrs rhwng Dr Peter Litman ac Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Michael Scott.
Y mae’n gôr mynediad agored heb glyweliadau sy’n denu ei aelodau o blith myfyrwyr a staff y Brifysgol, a’r dref a’r gymuned ehangach. Mae yna ryw 80 o gantorion yn y côr, sy’n perfformio gydol y flwyddyn. Fel arfer mae eu cyngerdd gwanwynol yn cynnwys unawdwyr proffesiynol a cherddorfa. Bydd aelodau dethol o’r côr hefyd yn perfformio mewn seremonïau graddio ac achlysuron eraill y brifysgol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Dr Peter Litman trwy ebostio p.litman@glyndwr.ac.uk. |
|