Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr

Gyda safleoedd ledled Gogledd Ddwyrain Cymru, mae Prifysgol Glyndŵr yn cefnogi ysbryd menter ac athroniaeth allblyg. Wedi’n hysbrydoli gan Owain Glyndŵr, ein nod yw bod yn eofn, yn ysbrydoledig ac yn fentrus ym mhopeth yr ydym yn ei wneud.

Mae ein cyrsiau wedi eu haddasu i fod yn berthnasol i ddiwydiant a chymwysiadau proffesiynol. Rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid busnes gan gynnwys Airbus, Rolls Royce a’r BBC er mwyn sicrhau fod ein graddedigion yn cael y sgiliau angenrheidiol er mwyn dod o hyd i waith.

Yn 2010, lansiwyd y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau, sef canlyniad partneriaeth arloesol rhwng y Brifysgol, Airbus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r ganolfan yn enghraifft ddelfrydol o’r modd y mae ein hagwedd tuag at bartneriaeth yn ein cadw ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn technoleg a sgiliau yn y prif sectorau diwydiant.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleusterau cynadledda rhagorol ac yn gweithio gyda busnesau i ddarparu hyfforddiant a datblygiad i staff.

Gyda’n gwreiddiau yn mynd yn ôl i 1887, mae gennym hanes hir o ddarparu addysg uwch yn yr ardal, ond gyda champysau newydd yn agor yn 2009/10 a chanolfannau newydd o fri yn cael eu lansio yn 2011, mae ein bryd yn bendant ar y dyfodol.

Mae yna alw rhyngwladol am gyrsiau Prifysgol Glyndŵr. O Lundain i’r Dwyrain Pell, mae’r Brifysgol yn datblygu cymuned o ddysg amrywiol a chyfoethog. Er enghraifft, addysgir ein cyrsiau yn Ysgol Reolaeth a Gwyddoniaeth Llundain a Choleg Blake Hall, ac mae perthnasau addysg uwch yn ffynnu rhwng Prifysgol Glyndŵr a phrifysgolion yn Singapôr a Fietnam.

Gall myfyrwyr sy’n ymuno â ni fod yn hyderus ein bod yn sefydliad sy’n ddigon bach i boeni ond o bwys rhynwgladol i gyfri.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr