|
|
Rhaglenni israddedig rhan-amser
Rydym yn deall yn iawn fod gan bawb ffyrdd gwahanol o fyw eu bywydau ac o wneud lle i’r pethau y maent am eu cyflawni. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl i astudio yn fwy hyblyg, mewn ffordd sy’n gweddu i’w hanghenion unigol nhw, ac rydym yn gwneud hynny trwy gynnig llawer o’n cyrsiau yn rhan-amser. Darllenwch fwy ynghylch astudio’n hyblyg ym Mhrifysgol Glyndŵr I wneud cais am le ar unrhyw un o’n rhaglenni rhan-amser bydd yn rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Glyndŵr. Cysylltwch â’r tîm Ymholiadau a Derbyniadau a fydd yn rhoi gwybodaeth lawn a ffurflen gais ar bapur i chi: Ebost: sid@glyndwr.ac.uk Neu gallwch lawr lwytho copi o’r ffurflen gais yma. Ysgrifennu Datganiad PersonolMae’n bosibl mai ysgrifennu Datganiad Personol yw rhan anoddaf y broses ymgeisio ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr. Peidiwch â phoeni – rhowch gymaint o amser â phosibl i chi eich hun i’w gynllunio ac i chwilio am y cyngor sydd ar gael. Ambell bwynt i’w cadw mewn cof wrth gynllunio ac ysgrifennu eich Datganiad Personol:
Mae gan UCAS glip fideo a deunyddiau cynllunio, fel map meddwl a thaflen waith, yn ogystal â mwy o gyngor. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. |
|