|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sut i wneud cais > Eich dyfodol chi eich ffordd chi > Yn y Gymuned, I’r Gymuned
|
||
|
|
Yn y Gymuned, I’r Gymuned
Daw chwarter o’n graddedigion o’r hyn a elwir yn Gymdogaethau Cyfranogiad Isel. Yn syml, pobl yw’r rhain a feddyliodd na allent fyth fynd i brifysgol, ond fe wnaethont. Fel myfyrwyr, maent yn llai tebygol o roi’r gorau i’w haddysg na’r rheiny o gefndiroedd incwm uchel, ac ar ôl graddio, mae 84% ohonynt yn mynd i gyflogaeth – 72% i swyddi lefel graddedig wedi’u lleoli yn bennaf yng Ngogledd/Gogledd Ddwyrain Cymru.
Gosod SafonauYm Mhrifysgol Glyndŵr, mae’n bwysig i ni fod pobl o aelwydydd incwm isel nid yn unig â’u bryd ar addysg brifysgol ond hefyd yn cael mynediad iddi. Bydd hyn yn ein helpu i wastatáu’r maes chwarae a mynd i’r afael â materion o bwys megis tlodi plant ac anghydraddoldeb. Dyna pam yr ydym ar flaen y gad yng Nghymru, yn gosod arfer gorau a sefydlu meincnodau ar gyfer gwella mynediad i addysg uwch.
Gweithio gyda ChymunedauMae ein staff yn gweithio’n helaeth gyda grwpiau cymunedol i ddarparu Addysg i Oedolion a gwaith allanol yn hyrwyddo addysg uwch i ysgolion a grwpiau. Er mwyn eu hannog i werthfawrogi’r profiad prifysgol, rydym yn darparu teithiau tywysedig o gwmpas y campws. Rydym hefyd yn darparu amserlen lawn o ddigwyddiadau a seminarau i godi ymwybyddiaeth, ysbrydoli ac ennyn diddordeb y gymuned. Chwalu’r RhwystrauI’r rheiny sy’n ystyried addysg uwch, arian yw’r prif bryder yn aml. Mae yna grantiau ar gael os ydych yn dod o aelwyd incwm isel. Mae ein Gwasanaeth Cyllid a Lles Myfyrwyr yn gwybod popeth am y rhain yn ogystal â bwrsarïau a nawdd ariannol ychwanegol. Maent ar gael i roi cyngor a chefnogaeth os ydych yn ansicr. O gofrestru i raddio, mae Cymorth i Fyfyrwyr yn hwyluso’r broses gymaint â phosib. Darperir rhaglen strwythuredig o asesu, cymorth astudio a gofal bugeiliol. Mae hyn yn helpu i ddelio gydag unrhyw bryderon y gallai fod gennych am fywyd prifysgol, a’u datrys. Dysgu HyblygYn yr amgylchedd busnes prysur sydd ohoni, mae’n bwysig addasu i anghenion y farchnad. Nid yw addysg lawn amser yn opsiwn i lawer. Yn hytrach na glynu wrth y traddodiad yma, rydym wedi cyflwyno amrywiaeth ehangach ar ein cyrsiau. Felly yn ogystal â chynyddu’r ystod o gyrsiau byrion a rhan-amser, rydym yn awr yn cynnig modiwlau gradd unigol. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i gydfynd ag ymrwymiadau gwaith a chyflenwir llawer ohonynt mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach lleol neu yn y gweithle. Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i ddysgwyr dros pryd, ble a beth y maent yn ei astudio. Mae llwyddiant yr agwedd yma yn amlwg yn ein poblogaeth myfyrwyr, gan fod hanner ohonynt mewn addysg ran-amser neu ar gyrsiau. Sgiliau Byd Go-iawnMae partneriaethau busnes cryf yn ein galluogi i gynllunio a chyflenwi cymwysterau sy’n fwy perthnasol i’r gweithle. Yn ogystal â chefnogi rhaglenni datblygu gweithlu, rydym yn gweithio gyda chyrff proffesiynol i gyflenwi cyrsiau sy’n cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae hyn yn golygu fod y cymwysterau yn berthnasol ac o fudd i gyflogwyr a chyflogedigion fel ei gilydd. |
|