|
|
Eich dyfodol chi, eich ffordd chiMae addysg uwch yn agosach nag y tybioch
Cred llawer mai rhywbeth i fyfyrwyr lefel-A galluog neu bobl ifanc gyda rhieni cyfoethog yw prifysgol. Anghywir. Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym yn agored i bawb. Mae hyn yn golygu, beth bynnag fo eich cefndir, oedran, rhyw neu anabledd, ein bod yn cynnig cyngor a chymorth i’ch helpu i lwyddo yma. Rydym yn awr yn cynnig mwy o opsiynau a hyblygrwydd yn y modd yr ydych yn astudio ar gyfer eich gradd, felly os ydych wedi gadael ysgol heb gymwysterau neu wedi bod yn gweithio ers sbel, mae yna gyfle o hyd i chi hybu eich addysg.
A fyddaf yn ffitio i mewn? Ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae gennym fyfyrwyr o bob math o gefndiroedd. Mae yna ddysgwyr aeddfed, gweithwyr sy’n gwella eu sgiliau, a myfyrwyr sydd wedi dod trwy ystod o lwybrau i ddilyn cwrs gradd. Mae hyn yn golygu eich bod yn elwa o amrywiaeth eang o brofiad a gwybodaeth yn y dosbarth.
A allaf ei fforddio? Mae yna grantiau a bwrsarïau ar gael os ydych yn dod o gefndir neu gymuned difreintiedig neu os oes gennych anabledd. Cofiwch wirio a ydych yn gymwys. Nid oes rhaid i chi astudio ar gyfer gradd mewn un tro! Mae cymwysterau yn fwy hyblyg nag erioed gydag opsiynau i wneud cyrsiau byrion neu astudio yn rhan-amser. Mae hyn yn golygu y gallwch addasu eich addysg o gwmpas eich cyllideb a’ch ymrwymiadau amser. Mae hefyd yn eich helpu i greu cwrs sy’n gwbl addas ar gyfer eich anghenion. A fydd angen i mi adael cartref? Nid yw astudio mewn prifysgol bob amser yn golygu byw ar y campws ac astudio yn llawn amser. Cyflenwir llawer o’n cyrsiau mewn partneriaeth â cholegau trwy’r ardal gan gynnwys Colegau Iâl a Glannau Dyfrdwy a Cholegau Menai, Llandrillo a Phowys. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn bosibl i chi astudio am radd Prifysgol Glyndŵr yn eich coleg lleol, neu o leiaf astudio ar gyfer rhan o’ch gradd, y gallwch atodi ati ar gwrs gradd ar un o’n campysau. A fyddaf yn cael fy nerbyn i brifysgol? Gall ystod eang o gymwysterau eich arwain at gwrs gradd – nid cymwysterau lefel-A yn unig. Os ydych wedi gadael ysgol heb TGAU neu wedi bod yn gweithio ers amser maith, mae’n siŵr y bydd yna opsiwn ar eich cyfer. Rydym yn cynnig HNCs, HNDs, cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch a graddau sylfaen. Os ydych yn gweithio yn llawn amser, mae yna opsiwn i ymgymryd â dysgu seiliedig-ar-waith, cwrs byr, neu gyfres o fodiwlau sy’n arwain at radd. Cliciwch yma i ofyn am brosbectws. Rydym yn cynnig HNCs, HNDs, a graddau sylfaen llawn amser a rhan-amser, ac yn gallu helpu i ddarparu gwybodaeth am gyrsiau Mynediad i AU a gynigir trwy ein partneriaid addysg bellach. Mae graddau sylfaen yn gofyn am gredydau sy’n cyfateb i un lefel-A. Ac mae profiad gwaith yn cyfrif fel credydau tuag at gyrsiau. Mae’n llawer haws nag y tybioch. Beth am ddod i ddigwyddiad, cael golwg o gwmpas y campws neu weld pa bryd y byddwn yn eich ardal chi am fwy o wybodaeth? |
|