Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ni’n ymweld â chi

Rydym yn cynnig sgyrsiau, cyflwyniadau, gweithdai, trafodaethau a gweithgareddau grŵp eraill ar y themâu canlynol:

  • Pam mynd i brifysgol?
  • Beth sydd gan Brifysgol Glyndŵr i’w gynnig
  • Dewis y cwrs a’r brifysgol iawn i chi
  • Sut i wneud cais am le mewn prifysgol
  • Beth mae tiwtoriaid derbyn mewn prifysgolion yn chwilio amdano – beth i’w wneud a beth i beidio’i wneud
  • Ysgrifennu datganiad personol effeithiol – sut i werthu eich hun
  • Cyfweliadau prifysgol – sut i ymbaratoi
  • O ysgol i brifysgol – safbwynt myfyrwyr
  • Cyllid myfyrwyr –  ysgoloriaethau, bwrsarïau a ffynonellau cyllido eraill
  • Cyflogaeth – cyflawni uchelgeisiau gyrfaol

Nid yw’r rhestr yn un gynhwysfawr – rydym yn fwy na bodlon i drafod eich gofynion penodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn ymweliad gan Brifysgol Glyndŵr, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01978 293575 neu ebost recruitment@glyndwr.ac.uk

Sut i wneud cais