Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i ni dderbyn eich cais, caiff ei ystyried yn ofalus.

Fel arfer mae penderfyniadau yn cael eu gwneud o fewn mis ar ôl derbyn y cais ond ar rai adegau o’r flwyddyn a phan fydd angen cyfweliad, efallai y bydd y penderfyniad yn cymryd mwy o amser.

Penderfynu

Os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi rheswm neu gyngor er mwyn helpu i’ch arwain i wneud y cam nesaf. Os byddwn yn cynnig lle i chi, bydd y cynigion naill ai yn ddiamod (unconditional) neu’n amodol ar ganlyniadau arholiadau academaidd ac, mewn rhai achosion, amodau eraill fel ennill profiad mewn lleoliad sy’n ymwneud â’r cwrs.

O ran cyrsiau sy’n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc neu oedolion bregus, fel arfer bydd yn rhaid cael cliriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Cyfweliadau

Ar gyfer rhai cyrsiau penodol fel Addysg, Nyrsio a Gwaith Cymdeithasol, mae cyfweliadau yn orfodol. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau, fodd bynnag, yn cynnig cyfle i gael cyfweliad anffurfiol cyn gwneud cynnig. O ran cyrsiau Celf a Dylunio mae’n rhaid cyflwyno portffolio, ac mae Theatr, Teledu a Pherfformio yn gofyn am glyweliad.

Ceisiadau uniongyrchol

Ar ôl inni wneud penderfyniad, byddwch yn cael llythyr gennym. Os ydych wedi bod yn llwyddiannus (diamod neu amodol), dylech ddychwelyd y slip ateb i ddweud a ydych am dderbyn y cynnig o le neu beidio.

Ceisiadau UCAS

Ar gyfer ymgeiswyr UCAS, bydd pob penderfyniad swyddogol yn cael ei wneud drwy UCAS a byddwch yn gallu ei weld ar system dracio UCAS (UCAS Track). Mae cyfarwyddiadau ar sut i ddewis a derbyn cynigion ar gael ar wefan UCAS. Byddwch yn gallu gweld statws eich cais ar-lein drwy system dracio UCAS. Gwyliwch un neu fwy o’r clipiau fideo byr ar www.ucas.tv  i ddeall beth sydd ei angen ym mhob rhan o’r broses.

Sut i wneud cais