|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sefydliadau Prifysgol > Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas > Seicoleg > Cyfleusterau > Labordy dynwaredu
|
||
|
|
Labordy dynwareduMae pob myfyriwr sy’n astudio ar y rhaglen BSc mewn Seicoleg yn cael cyfle i ddefnyddio’r Labordy Dynwaredu. Mae’r labordy wedi ei leoli yn Ysbyty Wrecsam Maelor ac wedi’i gyfarparu gyda’r meddalwedd cyfrifiadurol mwyaf modern mewn dynwaredu clinigol. Y mae’n arsylwi’n uniongyrchol ac yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau clinigol yn ogystal â sgiliau anhechnegol megis cydweithredu, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Mae myfyrwyr sy’n defnyddio’r labordy yn cael cyfle i ddefnyddio seicoleg mewn sefyllfa ‘bywyd go-iawn’. Mae myfyrwyr yn gallu defnyddio sgiliau cyfathrebu llafar ac anllafar i gwblhau tasg ryngweithio gyda’r model dynarwedu, tra’n cael profiad o waith tîm mewn sefyllfaoedd straenllyd a than bwysau i derfynau amser.
Yna y labordy, ceir cyfle i arsylwi eraill yn gweithio. O fewn seicoleg gymdeithasol, mae hyn yn gysylltiedig â materion prosesau grŵp, sut mae pobl yn ymddwyn mewn sefyllfaoedd eithafol, y syndrom Genovese, a sut mae pobl yn cyflwyno adroddiad realistig o ddigwyddiadau iddynt eu hunain. Mae’r labordy dynwaredu hefyd yn gysylltiedig â meysydd o seicoleg ddatblygiadol, seicoleg ymddygiadol a gwahaniaethau unigol.
|
|