Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datbblygiad Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru ledled Cymru

Ym mis Mawrth 2007, cynhaliodd Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru Wrecsam gynhadledd 'Gwneud iddo Ddigwydd' yng ngwesty crand y Ramada yn Wrecsam. Amcan y gynhadledd oedd codi ymwybyddiaeth o Brifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru ar lefel ranbarthol.  

Anfonwyd gwahoddiadau at Gyfarwyddwyr Corfforaethol, Uwch Swyddogion Addysg, Gwasanaeth Ieuenctid, ysgolion lleol, mudiadau gwirfoddol lleol, ac aelodau etholedig o awdurdodau lleol cyfagos gan gynnwys Sir Fflint,  Powys, Conwy a Sir Ddinbych.  

Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol o ran y nifer a fynychodd ac yn ei sgil sefydlwyd Gweithgor Rhanbarthol; mae aelodaeth yn cynnwys dau gynrychiolydd o bob awdurdod.

Gorchwyl y gweithgor yma yw datblygu Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru ym mhob un o'u hawdurdodau a sefydlu'r Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru Ranbarthol gyntaf.

Mae'r sefyllfa yng Nghymru wedi newid ers 2002 hefyd, ac erbyn hyn mae yna Brifysgolion Plant a Phobl Ifanc Cymru mewn 13 o awdurdodau lleol ledled Cymru:

  • Ynys Mon
  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam

Yn ddiweddar, mae Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru Wrecsam wedi anfon gwybodaeth i Mecsico, ac ers hynny wedi derbyn adroddiad cynnydd yn rhoi gwybod fod y Lancaster School, y sefydliad cyswllt wedi'i leoli yn Ninas Mecsico, wedi ymroi'n llwyr i fod y Ganolfan Weithgaredd Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru cyntaf yn America Ladin.

2004 2005 2006 2007 2008
Myfyrwyr
Y nifer o fyfyrwyr gyda chredydau 6096 7681 16209 24186 39380
Cyfanswm y bechgyn 3085 3564 6813 9670 16196
Cyfanswm y merched 3011 4117 8047 11525 18278
Cyfanswm y myfyrwyr - Coleg y Plant 1102 985 1086 3144 5553
Cyfanswm y myfyrwyr - Prifysgol y Plant 3430 4216 5232 15771 24028
Cyfanswm y myfyrwyr - y Brifysgol Ieuenctid 1564 2008 2913 6664 12783
Cyfanswm yr oriau credyd a gyflawnwyd 114439 157867 482696 990768 1382353
Canolfannau Gweithgaredd
Cyfanswm yr ysgolion sy'n rhedeg modiwlau PyP 92 112 170 212 380
Ysgolion babanod 65 96 31 33 42
Ysgolion iau 4 9 19
Ysgolion cynradd 116 133 238
Ysgolion uwchradd 28 28 35 47 69
Ysgolion arbennig 1 2 7
Canolfannau sy'n rhedeg modiwlau PyP 55 64 101 163 361
Modiwlau
Y cyfanswm o fodiwlau cofrestredig 1059 1576 3671 5014 9607
Y cyfanswm o fodiwlau sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg y Plant 682 1220 2119
Y cyfanswm o fodiwlau sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol y Plant 1940 3161 5499
Y cyfanswm o fodiwlau sydd ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol Ieuenctid 1102 1451 2489
Sefydliadau Prifysgol