Amcanion Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru
I'r myfyrwyr
- Adeiladu ar yr hyn maent yn ei wybod, ei ddeall ac yn gallu ei wneud eisoes a chynnig meysydd newydd iddynt eu harchwilio.
- Cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu unigol ac ar y cyd iddynt.
- Rhoi cyfle iddynt gael hwyl a mwynhau.
- Eu helpu i wella eu perfformiad yn yr ysgol.
- Annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned.
I'r rhieni/gwarcheidwaid
- Datblygu cyfle pellach i'w plant ddysgu tu allan i oriau dysgu arferol.
- Cynnig cyfleoedd o ansawdd uchel.
- Rhannu a dathlu cyraeddiadau eu plant gyda nhw.
I sefydliadau addysg ac anaddysgol
- Ehangu cyfleoedd cwricwlaidd.
- Helpu myfyrwyr i fod yn ddysgwyr mwy hyderus eto.
- Annog y gymuned i chwarae rhan mewn addysg myfyrwyr.
- Rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.
I diwtoriaid
- Ychwanegu gwerth at yr hyn a wnânt eisoes.
- Gwella eu datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cynnig cyfle i ymchwilio i syniadau a dulliau newydd.
- Cael cydnabyddiaeth ehangach am eu hamser a'u hymroddiad.
Cyflogwyr y dyfodol
- Mae Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn helpu i ddatblygu dysgwyr hyblyg, derbyngar a brwdfrydig ag agwedd bositif.
Gellir cyflawni'r amcanion drwy drefnu ystod o fodiwlau sy'n digwydd tu allan i oriau dysgu arferol, yn debyg i fodel Wrecsam.
