Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas y Brifysgol

Mae Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas y Brifysgol yn cynnwys y disgyblaethau canlynol:

  • Astudiaethau Plentyndod a Theulu
  • Addysg
  • Cymdeithas a Chymuned
  • Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer
  • Seicoleg
  • Nyrsio
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Therapi Galwedigaethol
  • Cymraeg

Gan ddod ag ystod o bynciau academaidd sy’n archwilio agweddau amrywiol cymdeithas ynghyd, mae’r Sefydliad yn darparu canolbwynt ar gyfer gwaith mewn disgyblaethau sydd yn aml yn gorgyffwrdd ac yn dibynnu ar rannu agweddau a syniadau er mwyn hwyluso arloesedd dilys. Er enghraifft, ym maes iechyd mae arbenigedd ein ysgolheigion yn adlewyrchu ystod eang o arbenigeddau o nyrsio a seicoleg i wyddor chwaraeon ac iechyd cyhoeddus.

Ymgorfforir yr agwedd yma gan Ganolfan y Plentyn y Brifysgol, a agorwyd yn 2011. Yn seiliedig ar gysyniadau Scandinafaidd, mae’r Ganolfan yn caniatáu i weithwyr datblygiad plant loywi eu sgiliau academaidd ac ymarferol, gan ganolbwyntio ar agwedd integredig at ddatblygiad plant. Mae’r Ganolfan £2m yn cynnwys amrywiaeth eang o arbenigeddau fel y maent yn effeithio ar blant, gan gynnwys iechyd, maeth, seicoleg plant, ymarfer corff ac addysg.

Mae’r Sefydliad yn gweithio i sicrhau fod y cyrsiau yn berthnasol i gymdeithas yn gyffredinol, gyda sylfaen gref mewn ymchwil gymwysedig a phwyslais ar herio rhagsyniadau a datblygu ffordd o feddwl newydd a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer datblygiadau yn y meysydd hanfodol hyn yn y dyfodol.

Sefydliadau Prifysgol