Ysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r Ysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg yn cwmpasu tri phwnc: Gwyddoniaeth, yr Amgylchedd Adeiledig, a Pheirianneg.
Cydnabyddir ymchwil wyddoniaeth yr Ysgol yn rhyngwladol trwy ei chanolfannau ar gyfer polymerau sylfaen dŵr, defnyddiau datblygedig, opteg fodern, ynni heulol, a hydrocoloidau. Mae’r rhaglenni gwyddoniaeth israddedig yn edrych ar wyddoniaeth mewn ffyrdd newydd a diddorol, gan gyfuno elfennau ffiseg, bioleg, cemeg a’r amgylchedd i ffurfio graddau mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac Astudiaethau’r Amgylchfyd. Mae yna gyfle hefyd fyfyrwyr Gwyddoniaeth Fforensig gyflenwi eu hastudiaethau â Chyfiawnder troseddol. Menter newydd arfaethedig yw ein gradd newydd mewn Gwyddoniaeth Labordy a fydd yn rhoi cyfle i ddarpar dechnegwyr labordy a rhai profiadol ym meysydd diwydiant ac addysg gael addysg bellach a gwobr er budd eu sgiliau a’u rhagolygon gyrfa.
Mae’r ganolfan ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig yn cynnig rhaglenni achrededig a pherthnasol i ddiwydiant sydd o ddiddordeb i fyfyrwyr rhan-amser a llawn-amser fel ei gilydd. Mae’r rhaglenni wedi’u hanelu at y rheiny sy’n chwilio am yrfa, neu sydd eisoes yn weithredol, ymhob agwedd ar y diwydiant adeiladu, asiantaeth gwerthu tai a rheolaeth ystadau, a thai. Mae gan Brifysgol Glyndŵr berthynas gref gyda chyrff proffesiynol cydnabyddedig yn y meysydd hyn, gan ei alluogi i gynnig eithriadau ar gyfer aelodaethau o dro i dro. Tra bod y cwricwla eisoes wedi cydnabod pwysigrwydd cynaliadwyedd, mae gradd faglor arbenigol newydd mewn Datblygiad Cynaliadwy. Bydd hyn yn astudio pwnc sydd erbyn hyn yn agwedd anorfod o adeiladu a datblygu, ac un sydd yn gynyddol yn bwnc trafod cyhoeddus, sylw diwydiant, a deddfwriaeth y llywodraeth.
Mae’r Ganolfan Ymchwil Peirianneg yn weithredol mewn modelu ac efelychu cymwysiadau modurol ac awyrofodol, ac astudiaeth signal, systemau grym a pheirianneg rheoli. Mae’r ymchwil hon yn ategu’r graddau lefel israddedig a meistr ac yn sicrhau fod y cwricwlwm yn cael ei ddiweddaru gyda’r datblygiadau diweddaraf yn y meysydd hyn.
Mae yna nifer o wahanol raglenni mewn Peirianneg, yn cwmpasu technolegau ceir perfformio a chwaraeon modurol, peirianneg awyrofodol ac afioneg, a gweithgynhyrchu arbenigol a logisteg beirianyddol. Mae gan Brifysgol Glyndŵr labordai peirianneg pwrpasol i gefnogi’r rhaglenni hyn ac mae gan beirianneg gysylltiadau agos gydag Airbus UK a chysylltiadau cryf gyda diwydiannau cryf gan gynnwys Toyota, Toyota, Jaguar and Siemens. Mae gradd sylfaen ran-amser newydd mewn Awtomasiwn, Offeryniaeth a Rheolaeth wedi cael ei hychwanegu at y portffolio â chefnogaeth United Utilities wedi’i hanelu at weithwyr diwydiannau seiliedig ar wasanaethau a phrosesu.
Mae’r rhaglenni Peirianneg i gyd yn cynnwys gwaith ymarferol i gefnogi cynnwys damcaniaethol gan ddefnyddio’r ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai peirianneg gyda chyfleusterau prototeipio chwim, awyrennau piston a jet mewn awyrendy, efelychwyr hedfan cyfrifiadurol, ceir perfformio mewn gweithdy modurol cynhwysfawr, labordai electroneg a rheoli, twnnel mwg, twnnel profi gwynt is-sonig ac uwchsonig, a labordai cyfrifiadurol yn rhedeg y feddalwedd safon diwydiant ddiweddaraf. Erbyn hyn mae Peirianneg yn bwriadu gosod efelychwr hedfan mudiant llawn newydd ac yn ddiweddar wedi uwchraddio eu twneli gwynt i gynnwys copïo data amser real o fesuriadau arbrofol.
Mae’r Ysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg yn ymfalchïo yn ansawdd a chyflogadwyedd ei graddedigion. Y newyddion diweddaraf yw bod Prifysgol Glyndŵr ar fin buddsoddi mewn adeilad Dylunio a Thechnoleg £8 miliwn newydd er budd Ysgolion o fewn y Brifysgol gan gynnwys Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd wedi’i gyfarparu â’r nodweddion a’r offer uwch-dechnoleg ddiweddaraf ac yn gwella mwy ar yr hyn sydd eisoes yn amgylchedd astudio modern ac ysgogol ar gyfer ein myfyrwyr Peirianneg, Gwyddoniaeth ac Amgylchedd Adeiledig.
