Ysgol y Dyniaethau
Mae Ysgol y Dyniaethau yn gartref i ystod eang o bynciau: Ysgrifennu, Saesneg, Hanes, Theatr a Pherfformiad, Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu drwy’r Cyfryngau. Mae datblygiadau newydd ar y gweill hefyd mewn Newyddiaduraeth a Darlledu a gradd sylfaen mewn Cyfieithu.
Mae’r Ysgol hefyd yn gyfrifol am drefnu chyrsiau byr mewn Astudiaethau Celtaidd, yr Iaith Gymraeg, Ieithoedd Ewropeaidd ac Astudiaethau Prydeinig. Ar ben hyn, mae’r Ysgol yn darparu dwy raglen ôl-radd a ddysgir, sef MA mewn Diwylliant Llenyddol Saesneg: 1880-1920 ac MA mewn Hanes Lleol.
Mae’r Ysgol yn gyfeillgar ac agos-atoch, ac mae rhoi cefnogaeth ac anogaeth i bob myfyriwr yn bwysig iawn inni. Y mae dulliau addysgu a dysgu oddi mewn i Ysgol y Dyniaethau yn amrywio, o ddarlithiau ffurfiol a sesiynau gwylio, i seminarau, tiwtorialau a gweithdai. Y mae gan y staff gymwysterau uchel, o ran statws academaidd a phrofiad proffesiynol, ac y mae nifer ohonynt yn ymgymryd ag ymarfer proffesiynol cyfredol (mewn meysydd megis Ysgrifennu, Newyddiaduriaeth, Darlledu a Theatr a Pherfformiad) a adlewyrchir yn eu haddysgu, ac yn darparu cysylltiadau i’r myfyrwyr.
Mae rhaglenni gradd yn y Dyniaethau yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ehangu eu gorwelion, ac sydd angen rhaglen astudiaeth ysgogol a fydd yn gweithredu fel sbardun i bosibiliadau gyrfa amrywiol a chyffrous. Gellir cyfuno pynciau ar draws y portffolio BA, ac mae ystod o deitlau gradd ar gael. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn dod o bob math o gefndiroedd, o’r rhai sy’n dod yn syth o’r chweched dosbarth i’r myfyrwyr hynny sy’n dychwelyd i addysg er mwyn hyrwyddo eu gyrfa.
Mae gan Ysgol y Dyniaethau gysylltiadau cyffrous â theatrau lleol, gan gynnwys Clwyd Theatr Cymru ynghyd â chysylltiadau â sefydliadau, gan gynnwys y BBC, cynghorau a sefydliadau lleol yn ogystal â chwmnïau yn y rhanbarth.
Mae cyfleusterau rhagorol ar y campws â gofod perfformio pwrpasol yn Stiwdios Terry Hands ar gyfer myfyrwyr Theatr a Pherfformio a chanolfan cynadledda newydd, a fydd yn cynnwys theatr, y bwriedir ei agor ym 2009.
