|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sefydliadau Prifysgol > Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg > Cyfrifiadura
|
||
|
|
CyfrifiaduraAddysgu ac ymchwil deinamig, perthnasol i ddiwydiant
Mae Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Glyndŵr yn faes deinamig sy’n cyfuno egwyddorion craidd y ddisgyblaeth gydag agwedd flaengar at gofleidio datblygiadau newydd ym myd cyflym technoleg gyfrifiadurol. Datblygir portffolio’r brifysgol o gyrsiau Cyfrifiadura mewn partneriaeth gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y sgiliau sydd ar ddiwydiant eu heisiau. Os ydych yn gobeithio datblygu gyrfa fel arbenigwr/wraig cyfrifiadurol, mewn cymorth TG a rheolaeth rhwydwaith neu weithio’n greadigol gyda chyfrifiaduron, gall ein cyrsiau eich darparu gyda’r sylfaen sydd arnoch ei hangen yn ogystal â’r rhyddid i arbenigo. Mae ein pwyslais cryf ar ymchwil o ansawdd uchel hefyd yn hysbysu cynnwys y cyrsiau a addysgir ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Mae gan y staff ystod eang o arbenigedd yn ogystal â diddordebau ymchwil penodol a phrofiad o weithio gyda diwydiant, ac maent yn frwd dros eu rhannu gyda’r myfyrwyr. Mae’r arbenigedd yma, yn ogystal â’r gefnogaeth a ddarperir, yn golygu fod addysgu o radd sylfaen hyd at lefel uwchraddedig yn gyson, yn berthnasol ac yn ddiddorol. Mae gan y brifysgol gyfleusterau cyfrifiadurol helaeth gan gynnwys labordy arbenigol pwrpasol ar gyfer rhwydweithio cyfrifiadurol a stiwdio datblygu gêmau cyfrifiadurol. Bydd y Ganolfan Diwydiannau Creadigol a agorwyd yn ddiweddar hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn addysgu ac ymchwil mewn ystod o feysydd. Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnal cynhadledd ymchwil i’r rhyngrwyd bob dwy flynedd sy’n denu dirprwyon o bob cwr o’r byd, tra bod y staff hefyd yn cydweithio’n agos gyda Chymdeithas Gyfrifiadurol Prydain. Mae maes pwnc Cyfrifiadura yn Academi Rhwydweithio Cisco gydnabyddedig. |
|