Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru

Datblygu gweithwyr proffesiynol creadigol ym mhob agwedd o ddylunio

art and design with pic welsh

Mae’r gwaith eithriadol a gynhyrchir gan fyfyrwyr Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru wedi rhoi enw da i’r Ysgol yn rhyngwladol ar gyfer arloesedd a rhagoriaeth. Amlygir hyn yn gyson gan nifer ac ystod y gwobrau a enillir gan fyfyrwyr yr Ysgol mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Gwobrau mawr eu bri D&AD a gwobr llyfrau Macmillan.

Y mae staff yr Ysgol yn gyfarwydd iawn ag ennill gwobrau hefyd, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau pwysig ag asiantaethau proffesiynol amlwg. Mae bron pob un o’r staff yn arddangos eu gwaith yn gyson neu ynteu’n ymgymryd â chomisiynau ac ymgynghoriaethau. Maent yn dangos ymroddiad dihafal ac angerdd am eu pwnc yn ogystal ag yn ymroi i wneud ymchwil gyfoes.

Mae’r ystod eang o raglenni ar gynnig mewn celf a dylunio yn cwmpasu celfyddyd draddodiadol a chyfoes gan gynnwys animeiddio, celfyddyd gain, ffilm a ffotograffiaeth a dylunio graffeg. Mae’r berthynas agos sydd gan yr Ysgol gyda phynciau a meysydd academaidd eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr yn sicrhau fod myfyrwyr yn gallu gweld defnydd ymarferol i’w sgiliau mewn ystod eang o alwedigaethau ac mae ffocws entrepreneuraidd y cyrsiau wedi galluogi i lawer o raddedigion yr Ysgol sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain.

Lleolir yr Ysgol ger canol y dref o fewn taith gerdded bum munud o gampws Plas Coch. Y mae wedi’i lleoli mewn adeilad cyn Fictorianaidd yn llawn cymeriad ac ysbrydoliaeth. Mae ganddi weithdai mawr a chanddynt gyfleusterau gwych â gweithfannau unigol ar gyfer myfyrwyr. Y mae gan yr Ysgol gysylltiadau gweithio gwych ag Ewrop ac yn rhyngwladol ac y mae gan fyfyrwyr gyfle i astudio eu pwnc yng Ngwlad Pwyl, y Ffindir, Bwlgaria, yr Eidal, yr India a Tseina. Y mae’r rhain i gyd yn wledydd y mae gan yr Ysgol gysylltiadau hirsefydlog â’u prifysgolion a’u hysgolion dylunio.

Sefydliadau Prifysgol