Sefydliad Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Brifysgol
Mae Sefydliad y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cynnwys y disgyblaethau canlynol:
- Peirianneg Drydanol
- Cyfrifiadura
- Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol
- Gwyddor Defnyddiau a Dadansoddol
- Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig
- Diwydiannau Creadigol, y Cyfyrngau a Pherfformio
- Rheolaeth
- Y Dyniaethau a Diwinyddiaeth
Mae’r Sefydliad yn adlewyrchu gweledigaeth y Brifysgol o uno rhagoriaeth greadigol gyda ffocws ar anghenion ymarferol diwydiant.
Mae cyrsiau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth wedi’u hanelu at wastrodi a datblygu doniau ein myfyrwyr er mwyn cynhyrchu graddedigion sy’n gymwys i gyfrannu meddylfryd arloesol i’r diwydiannau creadigol. Mae’r Brifysgol yn cefnogi’r agwedd yma gydag Adeilad Diwydiannau Creadigol newydd. Bydd y datblygiad gwerth £5m ar safle Plas Coch yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol, gan hyrwyddo mwy o gydweithredu rhyngddisgyblaethol ac yn ymwneud â phynciau sy’n amrywio o gelf a dylunio, cyfrifiadura a pheirianneg.
Mae’r ganolfan, sydd i fod i agor yn gynnar yn 2011, yn adlewyrchu ymroddiad Prifysgol Glyndŵr i’r diwydiannau creadigol a’u rôl allweddol mewn datblygiad economaidd. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu’r arloesedd sydd eisoes wrth graidd agwedd y Brifysgol at addysgu ac ymchwil.
