Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prosiect Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru

Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau Arwain a Rheoli yng Nghymru

Mae menter £37m i ddatblygu arweinwyr busnes o ddosbarth rhyngwladol yng Ngogledd Cymru wedi cael ei lansio. Arweinir y prosiect hwn gan Brifysgol Caerdydd a’i gyflenwi yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru gan Brifysgol Glyndŵr a Tattum Guest Associates. Mae’n helpu i hybu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth mewn miloedd o fusnesau yn yr ardal.

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARC) yn brosiect wedi’i noddi gan Lywodraeth y Cynulliad gyda’r bwriad o wella a hybu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth yng Nghymru.

Mae ARC yn ymgymryd ag ystod eang o fentrau i hyrwyddo’r damcaniaethau, y dulliau, a’r ymarferion sy’n gysylltiedig â datblygiad rheolwyr ac arweinwyr. Mae’r mentrau hyn yn anelu i helpu busnesau i gwrdd â’r heriau y maent yn eu hwynebu trwy barhau a chynyddu eu natur gystadleuol, ac yn ei dro, eu proffidioldeb.   

Mae ARC yn rhan annatod o’r rhaglen £37m Hybu Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’i rheoli gan Lywodraeth y Cynulliad.

Ein pwrpas

Fel gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio wedi’i anelu at hwyluso Datblygiad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (AaRh) mewn busnesau Cymreig, mae ARC yn:

  • Datblygu Rhwydweithiau Dysgu ffisegol a rhithiol
  • Trefnu digwyddiadau, megis Dewch â’ch Ymennydd i Frecwast a’r gyfres Yr Her
  • Cynnal ymchwil, gyda’r nod o:
    - Ddeall darpariaeth ac ymgysylltu cyfredol ag AaRh yng Nghymru
    - Deall safbwyntiau ymarferwyr ynghylch gwerth yr offrwm
    - Dynodi, gwirio-ffeithiau, a hyrwyddo damcaniaeth, ymarfer a darpariaethau AaRh cyfredol
  • Cynllunio a hyrwyddo cwricwlwm eang, cynhwysfawr ar gyfer AaRh yn seiliedig ar ganlyniadau’r ymchwil
  • Datblygu fframwaith sicrhau ansawdd y gellir ei ddefnyddio gan holl ddarparwyr rhaglenni AaRh yng Nghymru
  • Cyhoeddi cyfeiriadur o ddarparwyr AaRh (gyda sicrwydd ansawdd) AaRh yng Nghymru
  • Datblygu Safon Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth

A hoffech gofrestru eich busnes gyda ni, i ddarganfod mwy a datblygu eich busnes?

Ymwelwch â ni ar-lein yma.

Digwyddiadau ARC

Bring your brain cymraeg

Mae’r tîm yn Nhŵr Redwither wedi bod yn brysur yn ystod y misoedd diwethaf yn datblygu a threfnu nifer o seminarau a chynadleddau sy’n ymwneud ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae’r gyfres newydd o ddigwyddiadau Dewch â’ch Ymennydd i Frecwast wedi cychwyn, gyda digwyddiadau yn cael eu trefnu ledled Cymru trwy bob swyddfa ranbarthol. Bydd y digwyddiadau hyn yn amlinellu yr hyn y gall Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth ei wneud i hybu effeithriolrwydd busnes, ac yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n eu mynychu feddwl am y modd y gall ymarferion mabwysiedig busnesau llwyddiannus wella eu llwyddiant busnes hwy.

The Challenge cymraeg

Yr Her

Mae cyfres gyffrous arall o gynadleddau wedi cael ei chwblhau yn awr hefyd. Mae digwyddiadau Yr Her yn ychwanegu at lwyddiant digwyddiad blynyddol yn Ne Cymru, sef Cyfres Her Waterton. Bydd pob digwyddiad yn gyfle unigryw i gyfarfod, holi a dysgu gan rai o’r prif bennau busnes sydd ohoni mewn fforwm i helpu datblygiad busnes ac unigol.

Cynhelir pob digwyddiad yng Ngogledd ac yn Ne Cymru er mwyn sicrhau haws mynediad i’r digwyddiadau i fusnesau wedi’u lleoli ledled y wlad.  
I archebu lle neu am fwy o wybodaeth, ewch i www.lmw.org.uk/cy/ a chliciwch ar digwyddiadau. I ddarganfod mwy am ein holl ddigwyddiadau arfaethedig, gweler ein tudalen ddigwyddiadau.

LMW logos cymraeg

Gwasanaethau ar gyfer busnes