Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ysgoloriaethau Uwchraddedig Prifysgol Glyndŵr 2011/12

Noder y bydd cynllun Ysgoloriaeth Uwchraddedig 2011 yn cau ar y 1af o Dachwedd 2011

Mewn ymateb i’r gwahanol ffyrdd y mae myfyrwyr yn dewis dysgu ar lefel uwchraddedig, mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig opsiynau ysgoloriaeth newydd ar gyfer cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd 2011/12.

  • Ysgoloriaeth o £2,000 i raddedigion Prifysgol Glyndŵr sy’n ymgymryd â chwrs uwchraddedig llawn amser yn 2011/12
  • Ysgoloriaeth o £1,000 i raddedigion ar gyfer unrhyw Sefydliad Addysg Uwch (SAU) arall yng Nghymru sy’n ymgymryd â chwrs uwchraddedig llawn amser yn 2011/12
  • Ysgoloriaeth o £500 i raddedigion Prifysgol Glyndŵr, unrhyw SAU arall yng Nghymru neu raddedigion sydd wedi byw yng Nghymru am dair blynedd cyn astudiaethau uwchraddedig (gradd anrhydedd neu gyfatebol) sy’n ymgymryd â chwrs uwchraddedig rhan-amser yn 2011/12

Cysylltwch â’n tîm derbyniadau ac ymholiadau ar 01978 293439 am fwy o wybodaeth.

Cymhwyster ar gyfer ein hysgoloriaeth 2011/12

  • Cwblhawyd cwrs uwchraddedig yr ymgeisydd yn llwyddiannus fel yr amlinellir uchod
  • Nid yw’r ymgeisydd yn ddyledus i Brifysgol Glyndŵr
  • Gallai myfyrwyr rhyngwladol dderbyn yr ysgoloriaeth ymchwil am werth y ffi cartref yn unig

Telerau ac amodau

  • Mae’r wobr yn ostyngiad mewn ffioedd yn hytrach na gwerthiant am arian parod a delir i’r myfyrwyr
  • Fe’i gwobrwyir yn ystod y flwyddyn astudio
  • Fe’i gwobrwyir am gyfnod arferol y cwrs yn unig: ni fydd myfyrwyr sy’n gorfod ailsefyll y flwyddyn yn derbyn unrhyw ysgoloriaeth ar gyfer y flwyddyn ychwanegol honno
  • Ni ellir dal ysgoloriaeth uwchraddedig yn ogystal ag ysgoloriaeth arall o Brifysgol Glyndŵr

Cysylltu â ni

Pe hoffech siarad am unrhyw un o’r opsiynau ysgoloriaeth neu os ydych yn barod i wneud cais, ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch sid@glyndwr.ac.uk

Ffioedd a chyllid myfyrwyr
  • Ysgoloriaeth uwchraddedig