Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cyhoeddi ffî o £6,643 ar gyfartaledd ar gyfer graddau israddedig llawn amser yn y flwyddyn academaidd 2012-13.
Mae cynllun ffioedd y brifysgol yn cydnabod yr angen i osgoi, cyn belled ag y bo modd, llwytho myfyrwyr â dyledion mawr pan fyddant yn gadael y Brifysgol.
Bydd ffioedd yn cychwyn o dan £4,000 ar gyfer graddau sylfaen, ac yn amrywio hyd at £7,750 ar gyfer pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
Oherwydd fod angen i chi ystyried sut yr ydych yn mynd i dalu am eich ffioedd hyfforddi a’ch costau byw unwaith y byddwch ym Mhrifysgol Glyndŵr, byddwn yn eich diweddaru am ffioedd a chymorth yn 2012/13 trwy’r adran yma o’r wefan, yn ogystal ag ar ein tudalen Facebook a’n porthiant twitter (@glyndwruni).
Pa gymorth sydd ar gael i mi?
Bydd yna help ar gael i dalu ffioedd a chwrdd â chostau byw. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r brifysgol a ddewisir gennych. Cofiwch – ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd i Brifysgol Glyndŵr cyn cychwyn.
- Grantiau yw arian nad oes yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Os ydych yn dod o gartref incwm is yng Nghymru, fe allech fod yn gymwys ar gyfer Grant Dysgu’r Cynulliad o hyd at £5,000. Gallai incwm eich cartref olygu y byddwch yn gwneud cais am ran o’r arian yma yn hytrach na’r swm llawn.
Mae grantiau eraill ar gael ar gyfer myfyrwyr gydag amgylchiadau arbennig, gan gynnwys myfyrwyr anabl a allai fod â chostau ychwanegol i’w cwrdd.
- Mae’n rhaid i fenthyciadau cynhaliaeth gael eu talu’n ôl, ond dim ond ar ôl i chi adael prifysgol ac yn ennill mwy na ryw swm penodol. Ar hyn o bryd, y swm yma yng Nghymru yw £15,000. Pwrpas y math yma o fenthyciad yw eich helpu gyda threuliau byw megis rhent, bwyd a chymdeithasu tra’r ydych yn y brifysgol.
- Mae benthyciadau ffioedd hyfforddi ar gael gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Pwrpas y rhain yw talu ffioedd cyrsiau i’r brifysgol. Eto, nid oes angen i chi dalu’r arian yma yn ôl nes ar ôl i chi adael y brifysgol.
- Mae’r Grant Ffioedd newydd yn grant newydd a ddylai ddod i rym o fis Medi 2012. Bydd yn talu am unrhyw gostau ychwanegol y gallai fod gennych sy’n uwch na’r hyn y mae myfyrwyr newydd yn eu talu ym mis Medi 2011. Bydd yr arian yma, ynghyd â’r benthyciad ffioedd hyfforddi, yn cael ei dalu’n uniongyrchol i ni ar eich ran. Ni fydd angen i chi ddod o hyd i arian ymlaen llaw i dalu am gostau astudio’n llawn amser.
Pryd ddylwn i wneud cais am gymorth?
Yn ôl Cyllid Myfyrwyr Cymru, dylai ffurflenni cais fod ar gael yn gynnar yn 2012. Buasem yn eich annog i wneud cais am gymorth cyn gynted â phosib er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn barod unwaith i chi gofrestru gyda ni. Unwaith y bydd y ffurflenni ar gael, byddwn yn diweddaru’r adran yma o’r wefan er mwyn dweud wrthych sut i gael gafael arnynt yn gyflym. Mae mwy o wybodaeth,cyngor ac arweiniad ar gael am yr uchod i gyd gan gynghorwyr cyllido Prifysgol Glyndŵr - gweler y manylion cyswllt isod.
Bydd myfyrwyr sy’n cychwyn cyrsiau yn 2011 yn parhau i dalu ffioedd ar lefelau 2011 am holl gyfnod eu cwrs.
Mae ein swyddogion cyllid myfyrwyr yn brofiadol iawn mewn sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar y pecyn cymorth ariannol gorau posib ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a chefnogaeth sydd arnoch eu hangen unwaith i chi ymuno â ni, gallant helpu i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn pan ddaw i wneud cais am gyllid cyn i chi ddod i’r brifysgol.
Gallwch gael gafael ar ffurflenni a chael cyngor ynglŷn â’u llenwi, ac edrych ar yr opsiynau sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau unigol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein Gwasanaeth Cyllid a Lles Myfyrwyr.