Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil ac Ysgolheictod Addysgol
Sefydlwyd y Ganolfan er mwyn cefnogi diwylliant addysgol. Y mae’n rhan o ffocws strategol y Brifysgol ar ymchwil addysgol er mwyn sicrhau fod safonau ansawdd yn cael eu cynnal a gwella profiad dysgu myfyrwyr.
Y mae’n ymgymryd ag ymchwil strategol a chymwysedig ym maes addysg a datblygiad proffesiynol. Mae’r gwaith yma yn cynnwys addysg orfodol ac addysg ôl-orfodol ac yn cael ei drwytho gan y diwylliant a’r cyd-destun pwnc benodol gwahanol. Mae’r Ganolfan yn cyhoeddi ei chyfnodolyn ei hun, The Journal of Pedagogical Research and Scholarship, ac mae’r aelodau yn aml yn ymgymryd â phrosiectau cydweithrediadol gyda darparwyr addysg eraill.
