Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Cymwysedig (CAIR)
Ar hyn o bryd mae gan CAIR 23 o ymchwilwyr gweithredol mewn rolau amrywiol: staff academaidd wedi’u cofrestru ar gyfer graddau ymchwil, staff academaidd ymchwil weithredol eraill, cyfranogion Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a myfyrwyr ymchwil. O fewn CAIR mae yna bedwar tîm ymchwil: y Grŵp Algorithmau Rhwydwaith; y Grŵp Rhyngweithio Pobl-Cyfrifiaduron; y Grŵp Technolegau Cerddoriaeth a’r Tîm Datblygu Ymchwil Chwaraeon.
Mae gan y tîm gydweithrediadau ymchwil ledled Ewrop ac mae’r aelodau yn gwasanaethu ar amryw o fyrddau golygyddol/cynghorol cenedlaethol a rhyngwladol. Maent wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys rhai am waith wedi’i gyhoeddi a chyllid o’r DU ac Ewrop. Mae CAIR yn trefnu Cynhadledd Ryngwladol ar Dechnolegau a Chymwysiadau Rhyngrwyd bob dwy flynedd.
Gweler gwefan CAIR am fwy o wybodaeth (Mae'r wybodaeth yma ar gael yn Saesneg yn unig)
