Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iechyd a Chymuned

Mae aelodau’r Ganolfan yn cynnwys cynrychiolwyr o’r maes pwnc iechyd, yr Uned Ymchwil Cynhwysiad Cymdeithasol, ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (adran y Dwyrain).

Mae’r rhan fwyaf o ymchwil wedi’i chyllido o fewn y Ganolfan wedi canolbwyntio ar werthuso a datblygu gwasanaeth ac anghydraddoldebau. Mae mathau eraill o ymchwil yn cynnwys methodoleg naratif a moeseg gofal iechyd, dulliau dysgu gofal lliniarol, profiadau cleifion, gwneud penderfyniadau, methodolegau gwerthuso, dylunio arolwg a chyfranogiad defnyddwyr. Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghorol ac yn gweithio ar y cyd â phartneriaid lleol er mwyn denu arian ymchwil gan gyrff cyllido.

Mae arbenigedd methodolegol aelodau’r Ganolfan yn cyfuno agweddau ansoddol a mesurol a gellir disgrifio eu gwaith trwy themâu croestoriadol a meysydd sylweddol allweddol. Y ddau faes ymchwil sylweddol allweddol yw: ymddygiadau risg iechyd a datblygu gwasanaethau. Mae ymchwil o fewn y Ganolfan hefyd yn disgyn i dair thema croestoriadol – gwella gwasanaeth, cyfranogiad defnyddwyr ac anghydraddoldebau.

Mae rhai o’r prosiectau diweddar yn cynnwys archwiliad o nyrsio gofal bron yng Ngogledd Cymru; arolwg o anghenion iechyd trigolion cartrefi gofal yn Sir Ddinbych; gwerthuso offeryn i fesur medrau nyrsys ardal; arolwg o gartrefi gofal yng Ngogledd Cymru; datblygu offeryn epilepsi ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu; gwerthusiad o Brosiect Calon Sir Fflint, gwerthusiad o fentrau byw’n iach; arolwg Cymru-Gyfan o nyrsio gofal cychwynnol; gwerthusiad o Gynllun Grant Bwyd a Ffitrwydd Cymru Gyfan a gwerthusiad o Gynllun Grant Deieteg Cymru Gyfan.

Ein hymchwil