Y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Celf a Dylunio
Mae’r Ganolfan Ymchwil ar gyfer Celf a Dylunio yn canolbwyntio ar: ymchwil wedi’i harwain gan ymarfer ac yn seiliedig ar ymarfer yn ogystal ag arloesiadau dylunio. Mae’r ymchwil o fewn y maes yma yn cwmpasu sawl arbenigedd celf gan gynnwys dylunio; celfyddyd gain; darlunio; animeiddio, cyfathrebiadau dylunio, amlgyfryngau a chelfyddydau cymwysedig.
Mae’r ysgolheigion yn y maes yma wedi cyhoeddi eu gwaith yn helaeth a gofynnir iddynt yn aml roi eu barn arbenigol ynghylch gwaith wedi’i gomisiynu gan gyrff mawr. Maent hefyd wedi ymgymryd ag ymchwil ar gyfer cleientiaid gan gynnwys UNESCO, y GIG, ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Maent hefyd yn artistiaid yn eu rhinwedd eu hunain sy’n arddangos eu gwaith yn rhyngwladol.
