Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

CfDS logo

Y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Anabl

Cyflwyniad

Mae’r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Anabl (CAA) yn ganolfan addysg ifanc, ymchwil a pholisi o fewn Prifysgol Glyndŵr. Derbyniodd gymeradwyaeth Prifysgol yn ail hanner 2006 a chymrodd ei lle o fewn y Brifysgol yn 2007. Mae’r GAA yn ymwneud ag ymchwil ac addysg sy’n hysbysu ac yn cael ei hysbysu gan bolisi Cymreig, cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol gyda’r amcan amlwg o wella ansawdd bywydd a chynyddu cyfleoedd ac annibyniaeth ar gyfer pobl anabl, pobl gyda salwch cronig, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Roedd y GAA yn ymwneud i ddechrau â chyfranddeiliaid allanol – y trydydd sector a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, pobl anabl a gofalwyr – o bob cwr o Gymru, yn gyntaf i ddynodi a oedd yna angen am ganolfan addysg a pholisi anabledd yng Nghymru ac, os oedd, i hysbysu ei chyfeiriad strategol. Ar ôl deunaw mis o drafod mae tri maes allweddol wedi dod i’r amlwg trwy’r adeg, ac mae’r GAA wedi cymryd y rhain fel prif (ond nid unig) ffocws ein gweithgareddau:

  • Anabledd a chyflogaeth
  • Y plentyn
  • Pontio

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’i chyfranddeiliaid, gall y GAA barhau i fod ym mlaenllaw mewn addysg, ymchwil a pholisi anabledd a addasir i gwrdd ag anghenion a gofynion newidiol.

O fewn y Brifysgol mae’r GAA yn gweithio yn y meysydd academaidd a gweithredol, gan wneud defnydd o arbenigedd ym meysydd addysg, ymchwil a pholisïau anabledd, a chyfrannu at ddatblygu rhaglenni mewn meysydd fel yr Amgylchedd Adeiledig, Addysg, Gwyddorau Cymdeithasol a’r Celfyddydau.

Manylion cyswllt

Canolfan ar gyfer Astudiaethau Anabl
Prifysgol Glyndŵr
Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug,
Wrecsam LL11 2AW

Rhif ffôn: 01978 293189
Ebost: CAA@glyndwr.ac.uk
Gwefan: www.glyndwr.ac.uk/cfd

Ein hymchwil