Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rhagair

Psychology research with pic

O fewn yr Adran Seicoleg mae yna ddiwylliant ymchwil llewyrchus sy’n cwmpasu ystod eang o feysydd seicoleg.

Yn ogystal â’r tîm addysgu craidd, mae yna fyfyrwyr PhD a Chymrodorion Ymchwil Gwadd.

Mae’r tîm seicoleg yn trefnu nifer o seminarau ymchwil trwy gydol y flwyddyn sydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc. Gweler yr adran newyddion am fanylion pellach.

Mae’r tîm seicoleg hefyd yn ymwneud ag adolygu erthyglau eu cydweithwyr ar gyfer cylchgronau, ac yn eistedd ar nifer o fyrddau golygyddol. Yr Adran  Seicoleg yw ‘cartref golygyddol’ y cylchgronau canlynol ar hyn o bryd:

  • European Journal of Pentecostal Theology
  • Mental Health, Religion and Culture
  • Rural Theology: International, ecumenical and interdisciplinary perspectives
  • Cylchgrawn Seicoleg Cymru.

Ffocws ymchwil

Mae ymchwil o fewn y tîm Seicoleg wedi’i rhannu yn bedwar is-faes: seicoleg iechyd, dysgu ac addysgu, a seicoleg crefydd. 

Seicoleg iechyd

Ffocws y clwstwr seicoleg iechyd yw cymhwyso dulliau a damcaniaethau o seicoleg iechyd i agweddau ar les, corfforol a meddyliol. Mae gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar faeth, bwlio, hunan-barch, chwaraeon, a gofal seiciatrig.

Dysgu ac addysgu

Ffocws y clwstwr dysgu ac addysgu yw cymhwyso dulliau a damcaniaethau seicolegol i ddatblygiad cwricwlwm a chyflenwi addysg. Mae gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygiad cwricwlwm.

Seicoleg crefydd

Ffocws y clwstwr seicoleg crefydd yw cymhwyso dulliau a damcaniaethau seicolegol i astudiaeth wyddonol crefydd. Mae gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar gredoau crefyddol pobl yn eu harddegau, gwahaniaethau unigol a chrefydd, iechyd meddwl a chrefydd, chwythu plwc proffesiynol ymhlith clerigwyr, a straen ôl-drawmatig.  

Seicoleg gymwysedig

Ffocws y clwstwr seicoleg gymwysedig yw cymhwyso damcaniaethau seicolegol i ymarfer. Mae gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar iechyd a lles cheffylau.

Ein hymchwil