Canolfan Ymchwil Peirianneg
Mae’r Ganolfan Ymchwil ryngddisgyblaethol hon yn cynnwys tri grŵp ymchwil: y Grŵp Ymchwil Dadansoddi Strwythurol; y Grŵp Ymchwil Deinameg, Erodynameg a Rheoli; a’r Grŵp Ymchwil Prosesu Signal a Systemau Pŵer. Mae’r grwpiau ymchwil yn cydweithredu’n helaeth trwy gyhoeddiadau ymchwil, cyflwyniadau grant ymchwil a goruchwyliadau uwchraddedig ar y cyd.
Mae rhychwant y Grŵp Ymchwil Dadansoddi Strwythurol yn cwmpasu pedwar prif faes: cysylltiadau strwythurol, lludded a hollt, dylunio peirianneg, a defnyddiau bregus. Ymgymerwyd â gwaith yn ogystal ar brosiect bio-feddygol sy’n edrych ar y meysydd hyn. Mae’r ffocws ar gyfer y rhan fwyaf o waith ar ddadansoddi cyfrifiannol gan ddefnyddio technegau elfennau terfynedig ac elfennau terfyn.
Mae ymchwil y Grŵp Deinameg, Erodynameg a Rheolaeth Ymchwil yn arbenigo mewn pedwar maes: mecaneg thermohylifau, erodynameg, deinameg hylifau cyfrifiannol (CFD) a deinameg a rheolaeth hedfan. Mae’r grŵp yn gysylltiedig â chydweithrediad ymchwil gyda nifer o brifysgolion yn Ewrop (Ffrainc a Sbaen yn bennaf), yn ogystal ag yn y DU. Mae’r grŵp yn canolbwyntio yn bennaf ar offer dylunio a dadansoddi cyfrifiannol gan ddefnyddio CFD yn ogystal ag offer dadansoddi systemau rheolaeth hedfan.
Mae gwaith y Grŵp Ymchwil Prosesu Signal a Systemau Pŵer yn canolbwyntio ar feysydd prosesu signal a DSP, peirianneg uwch reolaeth, electroneg pŵer a systemau pŵer. Mae’r grŵp yn gysylltiedig â chydweithrediad ymchwil mewn meysydd megis uwch reolaeth, electroneg pŵer a systemau pŵer ynni adnewyddadwy.
