Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Canolfan Ymchwil Iechyd, Lles a Chymdeithas

Mae’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Lles a Chymdeithas ym Mhrifysgol Glyndŵr yn cyfuno arbenigedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol i edrych ar faterion iechyd a lles allweddol o fewn y cyd-destun cymdeithasol ehangach.

Mae’r ganolfan yn adeiladu ar bartneriaeth allweddol rhwng ymchwilwyr o fewn iechyd cyhoeddus, nyrsio a pholisi cymdeithasol, yr olaf wedi’i gynrychioli gan yr Uned Ymchwil Cynhwysiad Cymdeithasol sy’n bodoli o fewn gorchwyl y ganolfan.

Mae’r ganolfan yn dod â staff academaidd ynghyd â myfyrwyr ymchwil gyda diddordebau cyffredin yn rhai o’r heriau a chyfleoedd mwyaf sylfaenol yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae'r Uned Ymchwil Addysg Broffesiynol a Galwedigaethol hefyd wedi'i lleoli o fewn y ganolfan.

Dyma’r prif themâu sydd yn sail i ymchwil y ganolfan:

  • Iechyd, lles a chymdeithas
  • Gwerthuso ymddygiadau risg a newid ymddygiad
  • Gwerthuso gwasanaethau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawndwr troseddol
  • Cwrs bywyd, iechyd a chymdeithas
  • Iaith a diwylliant Cymraeg

Mae aelodau’r ganolfan yn ymchwil weithredol gyda gwybodaeth arbenigol am y themâu allweddol uchod. Mae’r ganolfan yn gynhwysol yn yr ystyr ei bod yn darparu cyd-destun ystyrlon ar gyfer cymdeithasoli ymchwil cydweithwyr iau yn Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas y Brifysgol.

Mae ganddi fynediad at adnoddau perthnasol a chyfredol, o natur gyffredinol ac arbenigol, ac yn rhedeg rhaglen seminarau ble mae myfyrwyr ymchwil a siaradwyr allanol yn cyflwyno. Mae’r ganolfan hefyd yn cyfuno arbenigeddau o ddisgyblaethau trwy’r brifysgol sy’n berthnasol i iechyd, lles a chymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff, seicoleg ac addysg yn arbennig.

Blaenoriaeth i’r ganolfan, sy’n cynnig gwasanaeth ymchwil dwyieithog, yw ymwneud â’r agenda ymchwil leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae cysylltiadau agos y brifysgol gydag Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn golygu fod y ganolfan mewn lle delfrydol i arwain a datblygu ymchwil sydd yn gysylltiedig â blaenoriaethau cyfredol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Ein hymchwil