Y drefn o wneud cais ar gyfer graddau ymchwil
Gall myfyrwyr gael eu cofrestru ar raglen gradd ymchwil ar ôl cwblhau’r trefnau mynediad yn foddhaol a derbyn o fewn terfyn amser penodedig cynnig derbyn ffurfiol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd arfaethedig sy’n dymuno ymgymryd â gradd ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr gwblhau Ffurflen Gais ar gyfer Mynediad i Raglen Ymchwil i ddechrau, a’i chyflwyno i’r Swyddfa Uwchraddedig. Cysylltwch â’r Swyddfa Uwchraddedig am ffurflen.
Os yw’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer goruchwyliaeth ar gael, bydd ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni gradd ymchwil fel arfer yn cael eu cyfweld gan o leiaf ddau aelod o’r staff academaidd yn unol â Chôd Ymarfer wedi’i ddiweddaru Prifysgol Glyndŵr ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymchwil, a Chôd Ymarfer yr ASA ar gyfer Rhaglenni Ymchwil Uwchraddedig (2004).
Bydd y cais yn cael ei ystyried o ran ei werth academaidd a’i hyfywedd o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Y camau nesaf
Yna bydd yn rhaid i chi gofrestru trwy Swyddfa’r Rhaglenni Myfyrwyr (lefel 3, Canolfan Edward Llwyd). Ynghyd â cherdyn adnabod myfyrwyr o’r Gwasanaethau Llyfrgell, bydd hyn yn darparu mynediad llawn i chi i gyfleusterau campws Prifysgol Glyndŵr a chyfnodolion ar-lein.
Disgwylir i’r myfyrwyr ymchwil i gyd loywi a cheisio Cadarnhad o’u Rhaglen Astudiaeth gan y Pwyllgor Graddau Ymchwil, fel arfer yn ystod y deuddeg mis cyntaf ar ôl cofrestru am y wobr i ddechrau. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil ddisgrifiad manwl o’u hymchwil a’u cynllun i gaffael sgiliau ymchwil a phroffesiynol yn y ffurflenni perthnasol. Mae’n rhaid i’w rhaglen astudiaeth gael ei chymeradwyo gan y tîm goruchwylio y dylai eu manylion o ran cymwysterau a phrofiad gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil fel rhan o’r broses Cadarnhau Rhaglen Astudiaeth.
Yna mae gofyn ailgofrestru, yn amodol ar ffurflen adroddiad blynyddol boddhaol, ar ddechrau pob blwyddyn astudio, trwy gyflwyno ffurflen ailgofrestru yn cynnwys llofnod eich goruchwylydd.
Mwy o wybodaeth
Ffioedd
Rheoliadau ar gyfer y Graddau Meistr mewn Athroniaeth a Doethur mewn Athroniaeth 2007-2008 (gan ymgorffori Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd Doethur mewn Athroniaeth trwy Waith wedi’i Gyhoeddi) (Mae'r wybodaeth yma ar gael yn Saesneg yn unig)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y broses dderbyn neu’r posibilrwydd o wneud ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa Uwchraddedig.
