Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Y Swyddfa Uwchraddedig

Beth yw ein swyddogaeth?

Mae’r Swyddfa Uwchraddedig yn cefnogi’r holl fyfyrwyr gradd ymchwil (MPhil, PhD a PhD trwy Weithiau wedi’u Cyhoeddi) yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Glyndŵr. Yr ydym yn darparu man gwybodaeth ar gyfer staff a myfyrwyr ynghylch trefnau, yn amrywio o dderbyn i raddio. Yr ydym hefyd yn gweinyddu’r Rhaglen Sgiliau Myfyrwyr Ymchwil, yn monitro cynnydd myfyrwyr a goruchwylwyr, ac yn gwasanaethau’r Pwyllgor Graddau Ymchwil.

Mae’r Swyddfa Uwchraddedig yn atebol i’r Cofrestrydd Academaidd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni; yr ydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol.

Cliciwch ar y dolenni yn y ddewislen ar y dde am fwy o wybodaeth ynghylch astudio ar gyfer gradd ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Y newyddion diweddaraf: ysgoloriaeth uwchraddedig Prifysgol Glyndŵr 2009

Ble gallwch ddod i hyd i ni?

Yr ydym wedi ein lleoli yn ystafell L312 yng Nghanolfan Edward Llwyd, safle Plas Coch, campws Wrecsam.

Cyfeiriad

Y Swyddfa Uwchraddedig
Ystafell L312, Y Ganolfan Edward Llwyd
Prifysgol Glyndŵr
Ffordd yr Wyddgrug
WRECSAM
Y DU
LL11 2AW

Am ymholiadau am Raddau Ymchwil cysylltwch ag:
Ebost: mphil-phdadmissions@glyndwr.ac.uk
Rhif ffôn: 01978 293576
Rhif ffacs: 01978 293168

Am ymholiadau am gyrsiau Meistr a addysgir, cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth i Fyfyrwyr (SID):
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk
Rhif ffôn: 01978 293439

Ein hymchwil