|
|
Urdd y MyfyrwyrMae Urdd y Myfyrwyr yn cydweithio’n agos gyda’r Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) a hefyd gyda’r Brifysgolei hun.
Mae Urdd y Myfyrwyr yn bodoli fel corff cynrychioladol ar gyfer y myfyrwyr. Mae’n cael ei redeg ar gyfer myfyrwyr, gan fyfyrwyr. Yma yn Urdd y Myfyrwyr, yr ydym yn anelu i hyrwyddo lles a chydraddoldeb y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr. Rydym yma i gynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n teimlo fod ganddynt broblemau yn ystod eu cyfnod yn astudio yn y Brifysgol. Bydd Urdd y Myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Glyndŵr. Yn ogystal â chynnig cyngor, arweiniad a gwybodaeth, rydym hefyd yn helpu ac annog myfyrwyr i redeg a chymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a’r Undeb Athletau. Yn ogystal â hyn yr ydym yn anelu i gynnig ystod eang o adloniant i chi yn y bar, gan ddarparu ar gyfer pob chwaeth, fel y gallwn hybu eich profiad cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr. Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr yn y lle cyntaf am fwy o wybodaeth:
|
|