|
|
Siopau ar y campws
Mae yna sawl siop ar gael ar wahanol gampysau Prifysgol Glyndŵr, gyda phob siop yn arbenigo mewn cynnyrch arbennig i gwrdd ag anghenion myfyrwyr. Mae Bar Caffi a Manwerthu Chapter 1 wedi’i leoli yng Nghanolfan Edward Llwyd ar Gampws Plas Coch. Mae’r bar caffi a’r siop ‘hanfodion’ yma yn gwerthu dewis eang o nwyddau gan gynnwys coffi a the arbenigol, diodydd oer, brechdanau, byrbrydau ysgafn a melysion. Mae yna hefyd ystod eang o nwyddau bwyd a phethau ymolchi. Mae Siop Lyfrau Chapter 2, gyferbyn â Chapter 1, yn stocio ystod eang o werslyfrau sy’n berthnasol i gyrsiau a gallwn gael gafael ar wasanaeth archebu cyflym, am ddim am unrhyw lyfrau nad ydynt mewn stoc. Mae’r siop lyfrau hefyd yn stocio ystod dda o ddefnydd ysgrifennu, cardiau cyfarch, papurau newydd yn ogystal â detholiad o nwyddau megis crysau chwys â chwfl Prifysgol Glyndŵr, anrhegion corfforaethol a chofroddion Cymreig.
Mae’r Siop Gelf wedi’i lleoli o fewn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru yn Stryt y Rhaglaw. Mae’n stocio ystod eang o gynnyrch celf a dylunio am brisiau cystadleuol iawn, a cheir gwasanaeth personol cyflym o ansawdd uchel. Gallwch hefyd prynnu detholiad o nwyddau arlein. Cliciwch yma am fanylion pellach. Am fwy o wybodaeth am siopau’r campws, cysylltwch â’r Ddesg Gwybdoaeth Myfyrwyr yn y lle cyntaf:
|
|